Neidio at y cynnwys

S4C

CYFRIFOLDEBAU GWEINYDDOL YR ADRAN RAGLENNI

09-Chwe-2005

Yn dilyn penodiadau diweddar i Adran Raglenni S4C, dyma gadarnhau cyfrifoldebau penodol staff gweinyddol yr adran.

Mae Lynette Morris, o Gaerdydd, yn dychwelyd i S4C ar ôl gweithio i Deledu Elidir am dros bymtheng mlynedd. Bu Lynette yn gweithio ar ystod eang o raglenni, i ddechrau fel ysgrifenyddes ac yna'n fwy diweddar fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu. Mae Lynette yn gyfrifol am roi cefnogaeth weinyddol i Iona Jones, Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C.

Angharad Vaughan, sy'n hanu o Benrhosgarnedd, Bangor, sy’n gyfrifol am roi cefnogaeth weinyddol i Lowri Gwilym (Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol Cyffredinol) a Ceri Sherlock (Comisiynydd Cerddoriaeth). Bu Angharad yn gweithio i gwmni Avanti am dros flwyddyn cyn gweithio fel ymchwilydd rhyddgyfrannol i amryw o gwmnïau. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio i Adran Farchnata S4C, yn cydlynu'r Daith Haf ac yn cynorthwyo’r Pennaeth Marchnata, Eleri Twynog Davies.

O ogledd Sir Benfro y daw Myfanwy Lewis yn wreiddiol, a hi sy'n rhoi cefnogaeth weinyddol i Gareth Davies (Comisiynydd Chwaraeon a Pennaeth Hawliau), Cenwyn Edwards (Comisiynydd Cyd-gynyrchiadau) ac Angharad Jones (Comisiynydd Drama a Ffilm). Ar ôl hyfforddi yn y BBC ym maes cynhyrchu radio a theledu mae Myfanwy wedi bod yn llawrydd ers rhai blynyddoedd, gan weithio i'r BBC yn bennaf ac amryw o gwmnïau annibynnol.

Mae Eira Lloyd Jenkins yn dal i fod yn gyfrifol am Meirion Davies (Comisiynydd Rhaglenni Adloniant a Digwyddiadau), tra bod Meinir Slaymaker yn parhau i rhoi cefnogaeth weinyddol i Siwan Jobbins (Comisiynydd Rhaglenni Plant) a Planed Plant. Yng Nghaernarfon, mae Llinos Jones a Catrin Jones yn rhannu’r cyfrifoldeb o ofalu am Nici Beech (Comisiynydd Adloniant Ffeithiol) a Siân Esmor (Comisiynydd Cynorthwyol).

Dyma rifau cyswllt uniongyrchol ar gyfer y staff gweinyddol:

Angharad Vaughan: 029 2074 1467
Myfanwy Lewis: 029 2074 1422
Lynette Morris: 029 2074 1420
Eira Lloyd Jenkins: 029 2074 1356
Meinir Slaymaker: 029 2074 1340
Llinos Jones/Catrin Jones: 01286 674622

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales