CYFNOD 3 OFCOM - YMATEB S4C
10-Chwe-2005
Mae S4C yn croesawu cydnabyddiaeth Ofcom o’r cyfraniad enfawr mae’r Sianel wedi ei gwneud i wreiddio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ledled Cymru ac yn y gymuned Gymraeg y tu allan i Gymru.
Mae’n nodi ac yn croesawu cydnabyddiaeth Ofcom o’r angen am drefn waith ddiwygiedig gyda’r BBC, gan gynnwys cytundebau gwasanaeth penodedig, ymrwymiad ariannol parhaus ac eglur a mwy o reolaeth olygyddol i S4C.
Mae’n cytuno gydag Ofcom y byddai’r opsiwn o amlyncu S4C yn gyfan gwbl i mewn i’r BBC yn cael effaith andwyol ar blwraliaeth yng Nghymru.
Mae S4C yn cydnabod bod angen i’r holl ddarlledwyr baratoi ar gyfer, a bod yn barod i addasu i’r amgylchedd ddarlledu newydd. Mae’r model cyfredol yn un unigryw a chymhleth, sy’n cyfuno arian cyhoeddus, arian hysbysebu, rhaglenni gan y BBC, comisiynau annibynnol a chyfraniad gan ITV Wales.
Gan edrych pump i ddeng mlynedd i’r dyfodol a chan ystyried yr holl newidiadau sy’n debygol o ddigwydd ym myd darlledu, band llydan a llwyfannau digidol eraill, nid yw’n dilyn mai dyma yw’r unig fodel posibl.
Er mwyn cynnal a datblygu ei rôl fel llwyfan i ragoriaeth greadigol a sbardun economaidd, mae S4C yn ffafrio model sy’n esblygu ar gyfer y dyfodol, sy’n cyfuno elfennau o opsiwn cyntaf a thrydydd opsiwn Ofcom.
Wrth galon y model yma – sy’n cynnal annibyniaeth statudol S4C – yw’r angen i wireddu potensial y sector annibynnol a moderneiddio perthynas y Sianel gyda’r BBC.
Nid yw S4C yn credu y byddai’n briodol i deledu Cymraeg yn ei grynswth gael ei ddarparu gan un endid masnachol, lle byddai buddiannau’r budd-dalwyr yn tra arglwyddiaethu, fel mae Opsiwn 3 Ofcom yn rhagweld. Mae’n croesawu, fodd bynnag, y syniadau radical am y diwydiant yng Nghymru y mae’r cynnig yma wedi helpu eu hysbrydoli.
Meddai Cadeirydd S4C, Elan Closs Stephens, “Mae plwraliaeth llais ym myd darlledu Cymraeg yn hanfodol. Yr hyn sydd ei angen yw cwmnïau cryf, creadigol, yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac yn y farchnad ehangach, wedi eu goruchwylio gan awdurdod annibynnol, sy’n canolbwyntio ar anghenion siaradwyr Cymraeg.”
Bydd S4C yn paratoi ac yn cyhoeddi ei hymateb ffurfiol maes o law.
