Y Gwasanaeth Rhaglenni
Ffurflen cyfleu syniad newydd
Croeso i'r adnodd ar gyfer cynnig syniadau newydd i S4C. Mae gan unrhyw gynhyrchydd, gwmni neu unigolyn yr hawl i gynnig syniad i S4C. Bydd tîm golygyddol Cyfarwyddiaeth Comisiynu S4C yn gallu trafod syniadau yn anffurfiol a chynghori ar wahân ond er mwyn sicrhau bod y cynnig yn cael ei gofnodi'n ffurfiol a sicrhau ymateb prydlon gofynnwn i chi eu cyflwyno drwy'r adnodd hwn.
Dylai cynigion a gyflwynir fod yn glir ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n gywir. Byddai S4C yn gwerthfawrogi cael gwybod pan fo cynigion wedi cael eu hanfon at ddarlledwyr eraill. Yn gyffredinol dylid cyfyngu cynigion yn y lle cyntaf i 300 gair gan nodi pwyntiau allweddol megis enwau cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr, amcan o gost yr awr a'r gynulleidfa darged y byddwch yn anelu ati wrth gynnig eich syniad.
Byddwn yn ymateb cyn gynted ag sy'n bosib ar ôl i'r ffenestr gomisiynu gau.
