Croeso 2011
Mae’r 20fed cyfres o Rasus yn dechrau fis Mehefin eleni gyda threfn darlledu cwbl newydd er mwyn cwrdd â sialensau ac amcanion Gweledigaeth 2012 a Chynllun Cynnwys newydd S4C.
Eleni byddwn yn darlledu 4 Penwythnos Pwysig - un cyfarfod mawr o bob un o brif ganolfanau rasio`r BHRC yng Nghymru;
Nos Sadwrn Mehefin 16 1700 - 2100 Tairgwaith - Rhagrasys a Ffeinal Cwpan Cymru S4C
Nos Sadwrn Gorffennaf 7 1730 – 2000 Ceredigion - Ffeinal Clasur Ceredigion
Nos Sadwrn Gorffennaf 21 1730 - 2130 Tir Prince - Rhagrasys a Ffeinal Crochan Aur S4C
Prynhawn Sadwrn Awst 25 1400 - 1540 Tregaron - Rhagrasys a Ffeinal Cwpan Ystrad Fflur + Nos Sadwrn Sadwrn Awst 25 1750 - 2000 Tregaron
Prynhawn Sul Awst 26 1400 – 2000 Tregaron - Rhagrasys a Ffeinal Clasur Cymru
Bydd cyfle i chi ennill £500 gyda’r Ras am Rif ym mhob un o`r dyddiadau darlledu uchod, a gallwch gofrestru ar gyfer Ras am Rif 2012 o ddydd Gwener Mehefin 1 ymlaen.
Mae tîm Rasus yn edrych ymlaen at eich cwmni unwaith eto