Neidio at y cynnwys

S4C

Crochan Aur S4C



Laneside Lexus yn ennill Crochan Aur 2011

Enillydd Crochan Aur 2011 oedd Laneside Lexus. Hi yw'r gaseg gyntaf erioed i ennill ras bwysica`r BHRC, gwobr deilwng i Posh a Becks y byd harnes, Alexis a William “Rocker” Laidler ar y noson rasio mwyaf cyffrous erioed ar Rasus.

Gweld y Ras →

 

Rhagrasus Crochan Aur 2011

Thum

03/07/2011 - CEREDIGION

Doonbeg

Thum

13/07/11 - TAIRGWAITH

Rhyds Destiny

Thum

27/07/2011 - TIR PRINCE

Laneside Lexus

Thum

10/08/2011 - TAIRGWAITH

Bon Jasper

Thum

17/08/2011 - TIR PRINCE

Mattador Hall

RHEOLAU PENCAMPWRIAETH 2011

1. Gweithredir y gystadleuaeth yn unol â rheolau’r BHRC a'r Traciau dan sylw.

2. Rasus Crochan Aur;

5 Rhagras
Ceredigion - Dydd Sul 3 Gorffennaf
Tairgwaith - Dydd Mercher 13 Gorffennaf
Tir Prince - Dydd Mercher 27 Gorffennaf
Tairgwaith - Dydd Mercher 10 Awst
Tir Prince - Dydd Mercher 17 Awst

Ras Derfynol y Bencampwriaeth
Tir Prince - Dydd Mercher 31Awst

3. Penderfyniad y Trac dan sylw fydd cost mynediad i bob rhagras.

4 Bydd y Rhagrasus ar gyfer y ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap.

5. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfres Crochan Aur eleni, mae’n rhaid i geffylau sydd wedi cael eu mewnforio fod naill ai wedi ennill ras neu wedi casglu £300 mewn enillion “arian safle” yn y DU neu Iwerddon ers Ionawr 2010. Os nad yw ceffylau sydd wedi cael eu mewnforio wedi llwyddo yn y naill na’r llall o’r meini prawf uchod, bydd y ceffylau hyn ond yn cael cymryd rhan mewn uchafswm o 3 rhagras eleni. Os nad ydynt ar ddiwedd y 3 rhagras hynny wedi ennill unrhyw “arian safle”, yna ni fyddant yn gymwys i gymryd rhan mewn unrhyw ragras bellach yn y gyfres eleni. Fodd bynnag, os ydynt yn llwyddo i ennill “arian safle” yn unrhyw un o’r 3 rhagras gychwynnol hyn, byddant wedyn yn gwbl gymwys i gymryd rhan ym mhob un o’r rhagrasus sydd yn weddill.

6. Bydd uchafswm y cystadleuwyr fesul rhagras yn unol â phenderfyniad y Trac dan sylw. (gydag isafswm o 8, ac uchafswm o 10 ceffyl fesul ras)

7. Bydd dewis peidio cymryd rhan mewn Rhagras Crochan Aur (h.y., pan gofrestrir 2 geffyl cymwys o’r un stabl/perchnogaeth ar gyfer yr un cyfarfod rasio) yn cael ei benderfynu gan y Trac dan sylw.

8. Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y gyfres eleni fydd £12,500 - £7,500 ar gyfer y Rhagrasus, £5,000 ar gyfer y Ras Derfynol

Rhagrasus (£7,500 - £1,500 fesul rhagras) Dosberthir y gwobrau ariannol ar gyfer y rhagrasus fel â ganlyn;
1af - £1000
2il - £350
3ydd - £100
4ydd - £50
Gall traciau unigol ychwanegu at gyfanswm gwobrau ariannol rhagras, ond dim ond y symiau uchod fydd yn cyfrif at gyrraedd Ras Derfynol y encampwriaeth.

Ras Derfynol y Bencampwriaeth Cyfanswm y gwobrau ariannol ar gyfer y Ras Derfynol fydd £5,000, ond yn unol â chanllawiau Handicap newydd y BHRC dosberthir y gwobrau fel a ganlyn;
1af - 70% (£3,500),
2il - 15% (£750),
3ydd -10% (£500),
4ydd - 5% (£250)

9. Yr 8 ceffyl â`r cyfanswm enillion ariannol mwyaf (yn cynnwys “arian safle”) fydd yn saff o’u lle yn Ras Derfynol y Bencampwriaeth. Bydd y 4 ceffyl nesaf i’r 8 uchaf (eto yn nhermau cyfanswm enillion) yn cael eu henwebu’n geffylau wrth gefn. Byddant ond yn gymwys i redeg os bydd ceffyl yn tynnu nôl cyn 6pm ar y diwrnod cyn y Ras Derfynol. Ym mhob achos lle mae ceffylau cymwys yn gyfartal didolir y ceffylau ar gyfer y Ras Derfynol drwy dynnu’r enwau allan o het.

10. Bydd Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cael ei rhedeg fel Ras Agored, dros 1 filltir o hyd, gyda safleoedd ar y giât yn cael eu tynnu allan o het ar y noson.

11. Nid oes cost mynediad ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth, ond mae’n rhaid datgan y ceffylau cymwys erbyn 1700 ar Ddydd Gwener Awst 31.

12. Ym mhob achos bydd penderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol.

13. Cedwir yr hawl i newid rheolau mewn amgylchiadau tu hwnt i'r cyffredin (na fedrir eu rhagweld.)

© 2011 S4C
O Gymru / Made in Wales