Cwpan Cymru S4C
Grannell Shane yn ennill Cwpan Cymru S4C 2011
Cynhaliwyd y Ffeinal deledu byw cyntaf erioed ar drac Tairgwaith – Cwpan Cymru S4C, enillwyd gan Grannell Shane, wedi ei enwi ar ol y digymar Shane Williams, ac yn eiddo i arwr y werin Tudor Jones Llanymmdyfri.
RHEOLAU PENCAMPWRIAETH 2011
1. Rhwng Mehefin 1 - Awst 1 bydd Cymdeithas Rasio Cymru a`r Gorllewin yn cynnal cyfres o rasus fydd yn cyfrif at gyrraedd Ras Derfynol yn fyw ar S4C yn Tairgwaith ar Nos Fercher Awst 10fed
2. Cyfres yw Cwpan Cymru sy`n agored i rasus ar gyfer ceffylau graddau 2-6, caiff eu trefnu unai gan WWHRA neu`r NWSA
3. Cyfyngir myndiad i gystadleuaeth Cwpan Cymru i berchnogion, hyfforddwyr a gyrwyr sydd wedi bod yn aelodau o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers cyn Mehefin 1 2011. Er mwyn bod yn llawn gymwys rhaid I bob ceffyl sy’n cofrestru gadw at y ddau gymal isod;
Unai’r Perchennog neu Hyfforddwr yn aelod o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers cyn Mehefin 1 2011
Gyrwyr;
Gyrwyr Dosbarth A yn aelodau o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers cyn Mehefin 1 2011
Gyrwyr Dosbarth B/C yn aelodau cyfredol o’r cymdeithasau a nodir uchod
4. Ar gyfer y rasus sy`n gymwys ar gyfer Cwpan Cymru mae pris mynediad, arian gwobrau a nifer y cystadleuwyr fesul ras i`w benderfynu gan y Traciau unigol
5. Ym mhob achos, bydd rheolau`r traciau unigol a phenderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol.
6. Bydd ceffylau yn casglu pwyntiau yn y rasus cymwys fel a ganlyn;
1af - 5pt, 2il - 3pt, 3ydd - 2pt, 4ydd - 1pt.
Os digwydd i geffyl rhedeg ddwywaith mewn diwrnod , dim ond y ras gyntaf fydd yn cyfrif at y cyfanswm pwyntiau gogyfer â`r gyfres hon
7. Bydd y 9 ceffyl fydd a`r cyfanswm uchaf o bwyntiau ar Awst 1af yn cael eu gwahodd I Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn Tairgwaith ar Awst 10
Os bydd cyfansymau pwyntiau yn gyfartal yna didolir ar gyfer y Ras Derfynol drwy dynnu’r enwau allan o het yn Rasus Tan y Castell ar Awst 7
Os bydd ceffylau’n tynnu n`ôl o’r Ras Derfynol, caiff y 4 ceffyl nesaf i’r 9 uchaf eu henwebu’n geffylau wrth gefn. Byddant ond yn gymwys i redeg os bydd ceffyl yn tynnu nôl cyn 6pm ar y diwrnod cyn y Ras Derfynol. Os bydd y ceffylau wrth gefn a enwebir, yn gyfartal yn nhermau eu cyfanswm pwyntiau fe`u didolir hwythau drwy dynnu’r enwau allan o het.
8. Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y Ras Derfynol fydd £1000 wedi ei rannu fel a ganlyn
1af 70% (£700)
2il 15% (£150)
3ydd 10% (£100)
4ydd 5% (£50)
Nid oes cost mynediad ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth, ond mae’n rhaid datgan y ceffylau cymwys erbyn 1200 ar Ddydd Mercher Awst 3ydd
9. Bydd Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cael ei rhedeg fel Ras Agored, dros 1filltir o hyd, gyda safleoedd ar y giât yn cael eu tynnu allan o het ar y noson.
10. Ym mhob achos bydd rheolau`r traciau unigol a phenderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol.
11. Cedwir yr hawl i newid rheolau mewn amgylchiadau tu hwnt i'r cyffredin (na fedrir eu rhagweld.)