Rheolau Pencampwriaeth 2010
1. Gweithredir y gystadleuaeth yn unol â rheolau’r BHRC a'r Traciau dan sylw.
2. Rasus Crochan Aur; Rhagrasus
Ceredigion - Dydd Sul 4 Gorffennaf
Tir Prince - Dydd Llun 5 Gorffennaf
Tairgwaith - Dydd Llun 12 Gorffennaf
Tir Prince - Dydd Llun 26 Gorffennaf
Tir Prince - Dydd Llun 9 Awst
Tairgwaith - Dydd Llun 16 Awst
Tregaron - Dydd Sadwrn 28 Awst
Ras Derfynol y Bencampwriaeth
Tir Prince - Dydd Llun 6 Medi3. Penderfyniad y Trac dan sylw fydd cost mynediad i bob rhagras.
4 Bydd y Rhagrasus ar gyfer y ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap.
5. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfres Crochan Aur eleni, mae’n rhaid i geffylau sydd wedi cael eu mewnforio fod naill ai wedi ennill ras neu wedi casglu
£300 mewn enillion “arian safle” yn y DU neu Iwerddon ers Ionawr 2009. Os nad yw ceffylau sydd wedi cael eu mewnforio wedi llwyddo yn y naill na’r llall o’r meini prawf uchod, bydd y ceffylau hyn ond yn cael cymryd rhan mewn uchafswm o 3 rhagras eleni. Os nad ydynt ar ddiwedd y 3 rhagras hynny wedi ennill unrhyw “arian safle”, yna ni fyddant yn gymwys i gymryd rhan mewn unrhyw ragras bellach yn y gyfres eleni. Fodd bynnag, os ydynt yn llwyddo i ennill “arian safle” yn unrhyw un o’r 3 rhagras gychwynnol hyn, byddant wedyn yn gwbl gymwys i gymryd rhan ym mhob un o’r rhagrasus sydd yn weddill.
6. Bydd uchafswm y cystadleuwyr fesul rhagras yn unol â phenderfyniad y Trac dan sylw. (gydag isafswm o 8, ac uchafswm o 10 ceffyl fesul ras)
7. Bydd dewis peidio cymryd rhan mewn Rhagras Crochan Aur (h.y., pan gofrestrir 2 geffyl cymwys o’r un stabl/perchnogaeth ar gyfer yr un cyfarfod rasio) yn cael ei benderfynu gan y Trac dan sylw.
8. Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y gyfres eleni fydd £15,500 - £10,500 ar gyfer y Rhagrasus, £5,000 ar gyfer y Ras Derfynol Rhagrasus (£10,500 - £1,500 fesul rhagras) Sut dosberthir y gwobrau ariannol ar gyfer y rhagrasus i’w gadarnhau cyn dechrau’r gyfres; 1af - 2il - 3ydd - 4ydd - £ Gall traciau unigol ychwanegu at gyfanswm gwobrau ariannol rhagras, ond dim ond y symiau uchod yn unig fydd yn cyfrif at gyrraedd Ras Derfynol y Bencampwriaeth. Ras Derfynol y Bencampwriaeth Cyfanswm y gwobrau ariannol ar gyfer y Ras Derfynol fydd £5,000, ond yn unol â chanllawiau Handicap newydd y BHRC dosberthir y gwobrau fel a ganlyn; 1af - 70% (£3,500), 2il - 15% (£750), 3ydd -10% (£500), 4ydd - 5% (£250)
9. Yr 8 ceffyl â`r cyfanswm enillion ariannol mwyaf (yn cynnwys “arian safle”) fydd yn saff o’u lle yn Ras Derfynol y Bencampwriaeth. Os bydd cyfanswm enillion ceffylau yn gyfartal , didolir ar gyfer y Ras Derfynol drwy dynnu’r enwau perthnasol allan o het yn fyw ar y teledu yn Rasus Tregaron. Bydd y 4 ceffyl nesaf i’r 8 uchaf (eto yn nhermau cyfanswm enillion) yn cael eu henwebu’n geffylau wrth gefn. Byddant ond yn gymwys i redeg os bydd ceffyl yn tynnu nôl cyn 6pm ar y diwrnod cyn y Ras Derfynol. Os bydd y ceffylau wrth gefn a enwebir, yn gyfartal yn nhermau eu cyfanswm enillion, didolir y ceffylau ar gyfer y Ras Derfynol drwy dynnu’r enwau allan o het.
10. Bydd Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cael ei rhedeg fel Ras Agored, dros 1 filltir o hyd, gyda safleoedd ar y giât yn cael eu tynnu allan o het ar y noson.
11. Nid oes cost mynediad ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth, ond mae’n rhaid datgan y ceffylau cymwys erbyn 1200 ar Ddydd Mercher Medi 1af.
12. Ym mhob achos bydd penderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol.
13. Cedwir yr hawl i newid rheolau mewn amgylchiadau tu hwnt i'r cyffredin (na fedrir eu rhagweld.)