Cwpan Cymru
Rheolau Pencampwriaeth Traciau Caled 2010
1. Gweithredir y gystadleuaeth yn unol â rheolau’r BHRC a'r Traciau dan sylw.
2. Rasus Cwpan Cymru;
Rhagrasus
Ras 1 Tir Prince - Dydd Llun 5 Gorffennaf
O ganlyniad i ddiffyg niferoedd yn cofrestru ni wnaeth y rhagras bwriedig cyntaf eleni, yn Tir Prince, gwrdd â gofynion y gystadleuaeth (fel â rhestrir isod yn y Rheolau - adran 4)
• Bydd uchafswm y cystadleuwyr fesul ras yn unol â phenderfyniad y Trac dan sylw. (gydag isafswm o 8, ac uchafswm o 10 ceffyl fesul ras)
O’r herwydd cafodd y rhagras gyntaf yma ei ddileu o’r gystadleuaeth.
Ras 2 Tairgwaith - Dydd Llun 12 Gorffennaf
Ras 3 Tir Prince - Dydd Llun 26 Gorffennaf
Ras 4 Tir Prince - Dydd Llun 9 Awst
Ras 5 Tairgwaith - Dydd Llun 16 Awst
Ras Derfynol y Bencampwriaeth
Tir Prince - Dydd Llun 6 Medi
3. Penderfyniad y Trac dan sylw fydd cost mynediad i bob rhagras.
4. Cyfyngir rasus Cwpan Cymru i berchnogion, hyfforddwyr a gyrwyr sydd wedi bod yn aelodau o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers 2009. Er mwyn bod yn llawn gymwys rhaid I bob ceffyl sy’n cofrestru gadw at y ddau gymal isod; Unai’r Perchennog neu Hyfforddwr yn aelod o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers 2009 Gyrwyr;
Gyrwyr Dosbarth A yn aelodau o’r WWHRA neu NWSA, neu unrhyw gymdeithas Ceffylau Standardbred Cymreig a gydnabyddir gan y BHRC, ers 2009
Gyrwyr Dosbarth B/C yn aelodau cyfredol o’r cymdeithasau a nodir uchod
Rhaid i’r ceffylau fod o radd 2 i 6 wrth gofrestru ar gyfer rhagras.
Cynhelir ond 1 Rhagras yn unig fesul pob noson deledu uchod. Ras Deledu byw fydd hon.
Bydd uchafswm y cystadleuwyr fesul ras yn unol â phenderfyniad y Trac dan sylw. (gydag isafswm o 8, ac uchafswm o 10 ceffyl fesul ras) Bydd enillydd pob Rhagras yn saff o'i le yn Ras Derfynol y Bencampwriaeth, ond wedi ennill unwaith ni fyddant yn gymwys i gymryd rhan mewn Rhagras bellach. Gall pob ceffyl nad sydd wedi ennill Rhagras gofrestru gogyfer â chynifer o Rhagrasus ag y mae’n dymuno.
Os oes mwy nag uchafswm y Trac yn cofrestru, didolir ceffylau yn unol â’r rheolau canlynol;
Ras 1 - rhoddir blaenoriaeth i’r ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap.
Ras 2 - rhoddir blaenoriaeth i’r ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap, na redodd yn Ras 1
Ras 3 - rhoddir blaenoriaeth i’r ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap, nad ydynt eisoes wedi rhedeg mewn Rhagras.
Rasus 4,5 yw rasus ail gyfle De/Gogledd Cymru i’r rheiny sydd â’r enillion mwyaf yn nhermau “arian safle” ar hyd y gyfres cyn belled.
Rhoddir blaenoriaeth 1af i’r rheiny â’r cyfanswm enillion “arian safle” mwyaf.
Rhoddir 2il flaenoriaeth i’r ceffylau sydd â’r graddau uchaf yn ôl ei marc handicap, gan ddiystyru sawl tro maent wedi ymddangos yn y gyfres.
-Yn achos ceffylau â’r union un marciau handicap, rhoddir blaenoriaeth ym mhob Rhagras i’r rheiny sydd wedi rasio amlaf yn 2010 mewn cyfarfodydd WWHRA/NWSA eraill (gan gynnwys Tairgwaith a Tir Prince)
Ym mhob achos, bydd penderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac dan sylw yn derfynol.
5. Bydd Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cynnwys 10 Ceffyl - enillydd pob Rhagras, a’r 5 fydd wedi casglu’r cyfanswm enillion “arian safle” mwyaf ar hyd y gyfres.
Os bydd cyfanswm enillion “arian safle” ceffylau yn gyfartal , didolir ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth drwy dynnu’r enwau allan o het yn fyw ar y teledu yn Rasus Tregaron.
Os bydd ceffylau’n tynnu nôl o’r Ras Derfynol, caiff y 4 ceffyl nesaf i’r 10 uchaf (eto yn nhermau cyfanswm enillion “arian safle” mwyaf) eu henwebu’n geffylau wrth gefn. Byddant ond yn gymwys i redeg os bydd ceffyl yn tynnu nôl cyn 6pm ar y diwrnod cyn y Ras Derfynol.
Os bydd y ceffylau wrth gefn a enwebir, yn gyfartal yn nhermau eu cyfanswm enillion “arian safle”, didolir y ceffylau ar gyfer y Ras Derfynol drwy dynnu’r enwau allan o het.
Nid oes cost mynediad ar gyfer Ras Derfynol y Bencampwriaeth, ond mae’n rhaid datgan y ceffylau cymwys erbyn 1200 ar Ddydd Mercher Medi 1af.
6. Cyfanswm y Gwobrau Ariannol ar gyfer y gyfres fydd £4500 wedi ei rannu fel a ganlyn
Rhagrasus – £600 y ras;
1af £350
2il £125
3ydd £75
4ydd £50
Ras Derfynol – £1,500;
1af £1,000
2il £250
3ydd £150
4ydd £100
7. Bydd Ras Derfynol y Bencampwriaeth yn cael ei rhedeg fel Ras Agored, dros 1filltir o hyd, gyda safleoedd ar y giât yn cael eu tynnu allan o het ar y noson.
8. Ym mhob achos bydd penderfyniad Cadeirydd Stiwardiaid y Trac yn derfynol.
9. Cedwir yr hawl i newid rheolau mewn amgylchiadau tu hwnt i'r cyffredin (na fedrir eu rhagweld.)