Croeso nôl i Rasus ar Garlam
Mae cyfres newydd sbon yn dechrau ar 12 Mai. Bydd Shân Cothi a Brychan Llŷr yn ymweld â rasus pwynt-i-bwynt o Sir Benfro i Ben-y-bont ar Ogwr, gan gwrdd â rhai o hyfforddwyr a jocis gorau'r wlad. Wyn Gruffydd fydd yn sylwebu a chawn ddilyn wefr y ras i weld ceffyl pa berchennog fydd ar y brig.
"Roedd yr ymateb i’r gyfres gynta'n wych. I’r rheiny nad ydyn nhw' diddori mewn ceffylau, rwy’n credu bo nhw’n mwynhau cyffro'r rasio! Ac i’r rheiny sy’n arbenigwyr, maen nhw’n cael pleser mawr o weld y gamp ar y teledu."
BRYCHAN LLŶR
Rhaid cyfaddef bod rasio pwynt-i-bwynt yn faes gweddol newydd i mi. Ond dwi wrth fy modd yn dysgu mwy am y grefft o hyfforddi ceffyl rasio. Mae’n braf hefyd gweld bod cefn gwlad Cymru yn parhau i fod mor angerddol am y traddodiad.
SHÂN COTHI
Yn rhaglen gyntaf cyfres Rasus ar Garlam bydd Brychan Llyr a Shan Cothi yn ymweld â rasus Helfa Tivyside, Cilwendeg. Cyfle i fwynhau uchafbwyntiau’r rasio gyda sylwebaeth Wyn Gruffydd, a chwrdd â rhai o jocis, pechnogion a hyfforddwyr gorau Pwynt i Bwynt; Ond pwy fydd yn dod i’r brig?
