Mwy am Rasus ar Garlam
Camp amatur yw rasio Pwynt i Bwynt ble mae’n ofynnol i geffyl fod wedi hela pedair gwaith cyn bod yn gymwys i rasio.
Yn draddodiadol, roedd ceffylau o’r helfa leol yn rasio o un twr eglwys i’r llall, a dyma darddiad yr enw "Pwynt i Bwynt".
Mae’n ras gyflym a chyffrous, gyda’r ceffylau a’r Jocis yn neidio dros 18 naid bedw sydd o leiaf 4 troedfedd 3 modfedd o uchder, ar gyflymder hyd at 30 milltir yr awr.
Rasio Pwynt i Bwynt yw un o’r chwaraeon prin ble gall ddynion a merched gystadlu yn erbyn ei gilydd. Mae’n angenrheidiol i bob Joci wisgo arfwisg a helmed arbennig rhag ofn iddynt ddisgyn o gefn y ceffyl.
Uchafswm o rhwng 16 ag 18 ceffyl sy'n cael dechrau ras, ond ar achlysur prin pan dim ond 1 ceffyl sydd mewn ras, dim ond croesi'r linell derfnyn fydd angen er mwyn hawlio'r fuddugoliaeth. Dyma darddiad yr hen ymadrodd “…it’s a walk over”
