Lowri's blog
Chwefror 2009 - Canolfan Amgylchedd Prifysgol Caerfaddon
Fel rhan arall o 'mharatoadau wy'n cael fy nghau mewn siambr fechan wydr lle'r mae'r tymheredd yn codi i 37ÂșC. Mae'r tymheredd yn y siambr yn debyg iawn i'r hyn fydd yn fy nisgwyl yn yr Amazon - ac mae'n annioddefol, credwch chi fi. Fi yw'r cyntaf i gyfaddef 'mod i wrth fy modd mewn sawna ac yn gallu aros mewn gwres uchel am sbel, ond mae rhedeg yn y siambr yn anghyfforddus iawn. Ar ôl pum munud wy'n socian - wy'n colli hanner kilo ar ôl hanner awr o redeg! Mae hynny'n rhoi rhyw syniad i mi o faint o ddŵr bydd angen i fi yfed yn y jyngl - a fi, wrth gwrs, fydd yn gyfrifol am gario'r dŵr!
Ionawr 2009 - Hyfforddi gyda'r Marines
Dyma'r sialens galetaf ac anoddaf i fi wynebu hyd yma, wrth i fi gael fy nhaflu i ganol ffau'r llewod i hyfforddi gyda'r Marines. Rwy'n teimlo fel disgybl ysgol yn mynd mewn i arholiad heb fod wedi adolygu, ac mae'r commando, Nigel Thomas, yn fy ngwthio i'r eithaf. Rwy'n berson cystadleuol iawn fel rheol ac wy'n benderfynol o brofi fy hun yn y byd gwrywaidd - ond mae'n lot anoddach na'r disgwyl. Er bo fi wedi rhedeg hyd at 50 milltir yr wythnos yn ystod y mis diwethaf, dwi erioed wedi bod mor stiff. Mae pob cyhyr yn gwynegu, o'r gwddf lawr i'r traed. Mae'r diwrnod wedi dangos fod angen cryfhau fy mreichiau a chodi mwy o bwysau. Wy wedi joio'r profiad yn fawr, ond wy wedi sylweddoli bo' fi ddim mor ffit ag o'n i 'n feddwl.

