Marathon y Jyngl a'r Amgylchedd
Flwyddyn yn ôl, cafodd Lowri wahoddiad i ddychwelyd i'w hen ysgol, Ysgol Gyfun Gŵyr, oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed. Roedd Lowri'n un o'r disgyblion cyntaf i ymuno â'r ysgol pan agorwyd hi.
Magodd yr ysgol nifer o sêr chwaraeon gan gynnwys Lowri, a fu'n rhedeg traws gwlad dros Gymru ac sydd bellach yn rhedwr marathon.
Mae to newydd yr ysgol wedi cymryd lle Lowri a'i ffrindiau. Testunau sy'n flaenllaw yn y cwricwlwm ysgol yw'r amgylchedd a'r fforestydd glaw.
Yn ystod ei hymweliad â'r ysgol, fe ysbrydolwyd Lowri i gyfrannu at dynnu sylw at gynhesu'r hinsawdd a'r perygl sy'n wynebu'r fforest law. Dyna pam y penderfynodd gymryd rhan yn Marathon y Jyngl.
Marathon y Jyngl yw un o rasys anoddaf a hiraf y byd. Mae hi'n cymryd saith diwrnod i redeg y chwe chymal o 222km, yn hollol hunan gynhaliol, drwy jyngl mwya'r byd ac un sydd bellach o dan fygythiad.
Mae'n fraint cael rhedeg drwy diriogaeth heb ei difetha a heb ei chyffwrdd. Mae hi hefyd yn anrhydedd, a dyna pam mae pawb sy'n rhedeg Ras y Jyngl yn sensitif iawn i'r adwaith amgylchfyd sydd ynghlwm â'r ras, a'r effaith gall y ras ei gael ar gydbwysedd y system eco.
Dinistr
Mae fforestydd glaw wedi eu ffurfio dros filiynau o flynyddoedd, ac erbyn heddiw mae nhw'n gyfuniad cymhleth o systemau eco gwerthfawr. Mae popeth o fewn y goedwig yn ddibynnol ar ei gilydd, ac mae newid un peth yn gallu arwain at ddinistr mewn rhannau eraill. Yn anffodus, mae hi dim ond wedi cymryd ychydig dros ganrif i ymyrraeth dyn ddifetha'r hyn a gafodd ei greu gan natur i barhau am byth.
Cyn bod dynoliaeth wedi dechrau dinistrio'r fforestydd glaw, roeddent yn ymestyn dros 15% o wyneb y ddaear. Heddiw maen nhw'n gorchuddio llai na 7% o'r tir. Yn ystod y 200 mlynedd diwethaf mae'r fforestydd wedi lleihau o 1,500 miliwn hectar i lai na 800 miliwn. Gall un hectar fod yn gartref i 750 math gwahanol o goed a 1500 gwahanol fathau o blanhigion.
Ers 1980 mae economi'r byd wedi treblu mewn maint ac mae poblogaeth y byd wedi cynyddu o 30%. Mae treuliant popeth ar y blaned wedi codi - ar gost enfawr i'n systemau eco. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bydd yr angen am reis, gwenith a chorn yn cynyddu ar gyfartaledd o 40% erbyn 2020 a'r galw am bren yn dyblu erbyn 2050. Mae mwy na 200,000 erw o goedwigoedd yn cael eu llosgi bob dydd - dyna 150 erw wedi eu colli bob munud o'r dydd a 78 miliwn erw wedi eu colli bob blwyddyn. Os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud i ddod â'r dinistr hwn i ben, bydd yr Amazon gyfan wedi diflannu mewn 50 mlynedd.
Law yn llaw â'r dinistr hwn daw llawer i sgîl effaith, megis llygredd yn yr awyr a'r dŵr, erydiad y pridd, clefydau malaria, carbon deuocsid yn dianc i'r awyr, llwythau Indiaid yn colli eu cartrefi a cholled o amrywiaeth o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae llai o fforestydd glaw yn golygu llai o law, llai o ocsigen i ni ei anadlu a mwy o berygl i'r byd gynhesu.
Mae'n Ras yn Erbyn Amser
Mae arbenigwyr yn rhagweld ein bod yn colli 137 rhywogaeth o blanhigion, anifeiliaid a phryfed bob dydd sy'n golygu 50,000 math bob blwyddyn. Wrth i'r coedwigoedd ddiflannu felly hefyd y triniaethau meddygol posibl o wahanol glefydau. Ar hyn o bryd mae 121 o gyffuriau ar brescripsiwn yn dod o ffynhonnell planhigion a 25% o gyffuriau fferyllol y gorllewin yn dod o gynhwysion y fforest law.
Roedd tua 10 miliwn o Indiaid yn byw yn y goedwigfa Amazon 500 mlynedd yn ôl. Heddiw mae llai na 200,000.
Mae fforest law'r Amazon wedi cael ei disgrifio fel 'Ysgyfaint y Blaned' oherwydd ei bod yn ailgylchu carbon deuocsid yn ocsigen. Mae mwy na 20% o ocsigen y byd yn cael ei gynhyrchu yn fforest law'r Amazon.
Mae o leiaf 3000 o wahanol fathau o ffrwythau yn y coedwigoedd glaw ac mae'r Indiaid yn defnyddio 2,000 ohonynt tra bo 200 yn cael eu defnyddio gan y byd gorllewinol.
Mae arbenigwyr yn cytuno bod gadael y fforestydd glaw fel y maen nhw a chynhaeafu'r cnau a'r ffrwythau, y planhigion sy'n cynhyrchu olew a'r planhigion meddygol o fantais economaidd gwell na thorri coed i lawr i gael pren a gwneud lle i wartheg bori.
Pe byddai'r fforestydd yn cael eu rheoli'n gywir, gellid prynu cynnyrch cynaliadwy a chreu marchnad ddibynadwy ac ecolegol fyddai ar yr un pryd yn creu sefydlogrwydd i'r bobl leol yn yr Amazon.
Mae'r Ras y Jyngl yn tynnu sylw pobl at y golled enfawr rydym yn ei wynebu ar y blaned os na fyddwn yn gweithredu'n bositif ac yn newid ein hagwedd. Y ffaith syml yw bod y fforestydd glaw yn cael eu dinistrio er mwyn arian ac elw. Ond os yw'r tirfeddianwyr, llywodraethau'r byd a'r rheiny sy'n byw a thrigo yn y fforest heddiw yn cael cynnig rheswm economaidd derbyniol i atal y dinistrio, gall yr Amazon gael ei hachub. Mae'r rheswm economaidd hwn yn bodoli ac yn gweithio heddiw - masnach y cynnyrch cynaliadwy. Cynnyrch y goedwig yw gwir gyfoeth y goedwig. Mae'r newid yn ein dwylo ni.

