Neidio at y cynnwys

S4C

Cyfres newydd

Mae her eithafol yn wynebu'r cyflwynydd Lowri Morgan - her fydd yn ei gorfodi i wthio'i chorff i'r eithaf yn nhymheredd oer a chreulon yr Arctig.

Gallwch ddilyn ei siwrnai, o'r paratoadau cynnar i'r ras fawr, yn y gyfres bedair rhan.

Mae Lowri wedi concro'r Arctig! Darllen mwy

Fel rhan o'i hymgyrch ei hun, bydd Lowri yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â'r wefan: www.sheltercymru.org.uk

Ras 6633 Ultra yw'r sialens sy'n wynebu Lowri a bydd yn her yn erbyn ei hun ac yn erbyn yr amodau anfaddeuol. Bydd disgwyl i Lowri deithio 350 o filltiroedd dros gyfnod o wyth diwrnod a byw'n gwbl hunangynhaliol. Mae'r ras ymhlith yr anoddaf yn y byd. Dim ond pum person sydd wedi llwyddo i'w chwblhau erioed ers ei chychwyn yn 2007 a menyw sy'n dal y record ar hyn o bryd.

Yn yr Arctig, bydd Lowri'n brwydro yn erbyn tymheredd oddeutu -30˚C i -40˚C. Yn y gorffennol, mae'r tymheredd yn ystod y ras wedi gostwng i -93˚C. Er mwyn ceisio dygymod â'r fath amgylchiadau, mae Lowri wedi bod yn hyfforddi'n galed yn ystod y flwyddyn yn rhedeg pellteroedd o 140 milltir yr wythnos ac yn arbrofi yn nhymheredd oer Sweden.

Meddai Lowri, "Er gwaethaf yr holl bethau negyddol all fynd o'i le, rwy wir yn edrych ymlaen at ddechrau cam nesaf y sialens. Mae wedi bod yn rhan fawr o'm bywyd i am flwyddyn ac felly rwy'n ysu i gael clywed y chwiban gyntaf a dechrau'r ras yn iawn."

  • Lowri Morgan

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales