Neidio at y cynnwys

S4C

Lowri Morgan

Merch o Dregŵyr, Abertawe, yw Lowri a fe aeth hi i Ysgol Gynradd Bryn y Môr ac Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera. Mae hi wedi graddio mewn Cerddoriaeth - gan arbenigo ar y llais - ac mae hi'n gantores dalentog yn ogystal â bod yn yn gerddor medrus sy'n chwarae'r ffidil, y fiola a'r piano. Pan yn ifanc, roedd hi'n aelod o Gôr Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid Cymru a cafodd gyfle i deithio i America gyda Cherddorfa Gorllewin Morgannwg yn canu alawon gwerin.

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Lowri i deithio am flwyddyn ac ar ôl dychwelyd cafodd waith yn dysgu cyn dechrau ar ei gyrfa cyflwyno gyda rhaglenni Planed Plant ac Uned 5. Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni P.O.P.1 a bellach mae hi'n enwog fel un o gyd-gyflwynwyr y gyfres boblogaidd Ralïo+.

Fel merch sydd wrth ei bodd yn wynebu her, mae Lowri wedi cael ei magu ar adrenalin a phan oedd hi'n blentyn roedd y teulu yn aml yn treulio eu hafau ar wyliau anturus pan oedd hi a'i brawd bach yn cael eu hannog i fentro. Rhai o'i hoff ddiddordebau hamdden yw cymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgïo oddi ar y piste (Vallée Blanche yw un o'i ffefrynnau), eirafyrddio, ôl-fyrddio, sgwba-deifio a llawer mwy.

Un o gampau mwyaf nodedig Lowri yw plymio i ddyfnderoedd y môr i weld gweddillion y Titanic. Dim ond 80 o bobl sydd wedi gwneud hynny erioed. Fe'i rhestrwyd yn Dream Team Rygbi Menywod y Byd yn 1996 ac mae hi wedi rhedeg chwech marathon yn Llundain ac Efrog Newydd - ei hamser cyflymaf yw 3 awr ac 8 munud - ac mae hi hefyd wedi rhoi tro ar gystadleuaeth ffitrwydd Ironman. Yn 2009, fe wynebodd ei hantur fwyaf, sef cystadlu mewn ras 222km ar draws Jyngl yr Amazon, am 7 diwrnod, a hynny'n hollol hunangynhaliol. Cofrestrodd 88 y llynedd a chwblhaodd llai na hanner hynny y cwrs.

  • Lowri Morgan

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales