Ras yr Ultra 6633
Lleolir Ras yr Ultra 6633 yn amgylchedd oer Cylch yr Arctig wrth i'r cystadleuwyr wynebu un o sialensiau anodda'r byd. Bydd disgwyl iddynt deithio 350 o filltiroedd dros gyfnod o wyth diwrnod a byw'n gwbl hunangynhaliol. Dim ond pum person sydd wedi llwyddo i'w chwblhau erioed ers ei chychwyn yn 2007 a menyw sy'n dal y record ar hyn o bryd.
Yn ogystal â brwydro yn erbyn yr holl amgylchiadau, bydd yn rhaid iddynt dynnu gwerth hanner can pwys o offer ar hyd y cwrs. Mae'r pulk (y sled) yn gorfod cynnwys sach gysgu, dillad ychwanegol, bwyd, dŵr, cit cymorth cyntaf ac offer hanfodol eraill fydd angen yn ystod yr wyth diwrnod.
Martin a Sue Like, pâr briod o Aberhonddu, yw trefnwyr y ras ac maent wedi hen arfer â rhedeg ras ultra.
Esbonia Sue: "Rydym ni wedi bod yn ffodus iawn i deithio o amgylch y byd yn cymryd rhan mewn amryw o rasys, felly roedden ni eisiau i eraill gael yr un mwynhad â ni.
"Mae rhedeg ras ultra yn cynnig bob math o anturiaethau anhygoel ac mae Cylch yr Arctig yn cynnig antur eithafol yn ei hun. Bydd y golygfeydd godidog a'r amodau ffyrnig yn syfrdanu pawb. Mae'n lleoliad unigryw - gyda'r oerfel yn eich taro'n syth, y bywyd gwyllt yn byw o'ch cwmpas a golygfeydd trawiadol Goleuadau'r Gogledd. Er bod y ras yn un anodd, bydd y cystadleuwyr yn gweld yr Arctig yn ei holl ogoniant."
Cafodd ras gyntaf yr Ultra 6633 ei chynnal yn 2007 ac ers hynny mae cystadleuwyr o bedwar ban byd wedi gwthio eu cyrff i'r eithaf.
Meddai Sue: "Mae'r 6633 Ultra yn llwyddo i ddenu rhedwyr safon uchel o amryw o wledydd dros y byd, gan gynnwys Americanwyr, Eidalwyr, a chystadleuwyr o Brydain a De Affrica. Am y tro cyntaf eleni, bydd rhedwr o Awstralia yn cymryd rhan. Dyma un o brofiadau unigryw'r Arctig sy'n un o sialensiau eithafol anoddaf, oeraf a gwyntog y byd."
Fel rhan o'i hymgyrch ei hun, bydd Lowri yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â'r wefan: www.sheltercymru.org.uk
