Dechreuodd ei yrfa fel cigydd i Phillip Hughes ac yn ystod ei amser yno, enillodd y brif gystadleuaeth yn y Sioe Frenhinol
Ymunodd â chomandos y Royal Marines
Nawr yn Brif Weithredwr ar ei gwmni ei hun
Mae hefyd yn flaengar iawn yn codi arian i elusennau Multiple Schlerosis, Childline a Ray Gravell
Ei ddiddordebau yw reidio beiciau modur a dringo mynyddoedd
Dyfri Owen
Ffisiotherapydd Chwaraeon
Prif Ffisiotherapydd Clinic Ffisiotherapi Penarth. Cyn ffisiotherapydd Tîm Cenedlaethol Pêl-droed Cymru a thîm Cymru o dan 21 oed
Ffisiotherapydd Clwb Rygbi Caerdydd ers 2000
Ffisiotherapydd Rygbi Cynghrair Prydain a thîm Myfyrwyr Cymru
Gweithio'n agos iawn â doctoriaid orthopedig a chwaraeon gorau'r wlad
Eurwyn Davies
Parafeddyg
Cyn-aelod o'r Royal Marines 1984-1993
Bellach yn barafeddyg i'r gwasanaeth ambiwlans. Wedi helpu i arbed bywyd ei dad wedi iddo gael trawiad ar y galon. Hefyd trwy ei waith mae wedi cael ei wobrwyo â Gwobr y Royal Humane Society am achub gwraig oedd wedi disgyn i lawr craig ac i mewn i'r môr - a hynny yn y tywyllwch
Cyn-chwaraewr rygbi i dîm cyntaf Aberteifi fel blaenasgellwr a chapten ieuenctid
Wedi bocsio ddwywaith dros Gymru ac enillydd ym Mhencampwriaeth Bocsio'r Royal Marines yn nosbarth Heavyweight Novice
Wedi cwblhau dwy ras Ironman, a sawl triathlon arall
Wedi rhedeg 10 marathon gyda'i amser gorau'n 3awr 49mun
Mae hefyd yn nofiwr brwd ac yn aml yn nofio o Aberporth i draeth Mwnt sy'n 10km o bellter
Ross Hall
Seicolegydd Chwaraeon
Prif ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Arweinydd Gwobr BSc mewn Seicoleg Chwaraeon ym Mhrifysgol Morgannwg
Cyn-filwr gyda'r fyddin
Wedi arwain nifer o gyrsiau hyfforddi yn cynnwys un yn jyngl Brunei oedd yn un o'r profiadau mwyaf cofiadwy a gafodd erioed
Seicolegydd i dîm pêl-droed Caerdydd yn ystod tymor 2006-7 gan roi cefnogaeth i'r chwaraewyr a'r staff ynghyd â theithio i bob gêm a gweithio gyda staff a chwaraewyr ifanc yr Academi
Seicolegydd i dîm rygbi anabl Prydain ers 2008
Wedi gweithio efo tîm Fasged Rhwyd Anabl Prydain ers 2006
Wedi gweithio gyda golffwyr amatur a phroffesiynol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
Wedi rhoi cymorth i nifer o fyfyrwyr chwaraeon Prifysgol Morgannwg