Beth am gerdded Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai? Mynegwch eich diddordeb
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Mae'r llwybr hwn ar hyd arfordir y de yn mynd â chi heibio i ddinasoedd prysur a phentrefi bywiog. Cewch olygfeydd gwych hefyd o aber afon Hafren sydd â'r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, sef 49 troedfedd, a lle gwelir eger Hafren. Cewch gydgerdded â nifer fawr o adar dŵr a rhydyddion, yn enwedig yn y gaeaf. Mae'r gylfinir a'r cwtiad yn gyffredin ac, ar yr adegau prysuraf, mae'r aber yn un o'r ychydig aberoedd ym Mhrydain lle ceir dros 100,000 o rydyddion. Mae arfordir ardal Casnewydd i gyd yn rhan o Wastadeddau Gwent, sef morfa heli a hawliwyd o'r môr. Mae'r amddiffynfeydd yn gwarchod y tir a ffosydd artiffisial yn ei ddraenio.
Croeso!
Cliciwch ar y lliwiau isod i ddarllen mwy am y rhan yna o’r llwybr
- Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy
- Ynys Môn
- Menai, Llŷn a Meirionnydd
- Ceredigion
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
- Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren
- Llwybr yr Arfordir eisoes ar agor ac yn cael ei hyrwyddo. Gwelliannau ar y gweill.
- Nid yw Llwybr yr Arfordir wedi’i hyrwyddo eto. Ond mae modd cerdded ar hyd sawl rhan o’r llwybr eisoes.
