Beth am gerdded Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai? Mynegwch eich diddordeb
Ar Fai 5 eleni, fe fydd Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei agor yn swyddogol, ac i gyd-fynd â’r digwyddiad hanesyddol hwn, fe fydd y gyfres newydd o Bro ar S4C yn ymweld â chymeriadau difyr sy’n byw ac yn gweithio ar hyd y llwybr arfordirol.
Fe fydd yr athletwraig ddawnus Lowri Morgan yn ymuno â Shân Cothi ac Iolo Williams i gyflwyno Bro: Llwybr yr Arfordir.
Yn y bennod gyntaf nos Fawrth, 3 Ebrill fe fydd Lowri'n rhoi tro ar eirafyrddio gyda’r hyfforddwr Bedwyr ap Gwyn ar ben y Gogarth yn Llandudno.
Hefyd yn y rhaglen, bydd Shân Cothi'n gweld llwybr yr arfordir o’r awyr yn dilyn sgwrs gyda Maldwyn Williams ym maes awyr Caernarfon. Bydd Iolo Williams yng nghwmni Olive Corner sy’n berchen ar genelau cŵn yn ardal Porthcawl.
Bydd hefyd cyfle i’r gwylwyr ddod i adnabod Gwion Llŷr sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn diddori mewn 'parkour' sef symud yn effeithiol o le i le gan ddefnyddio pob math o driciau corfforol.
Bydd y pum rhaglen yn arwain at rifyn arbennig o Bro ar 7 Mai am 8.25pm ar S4C. Bydd y rhaglen hon yn cael ei ffilmio mewn digwyddiadau gwahanol wedi’u trefnu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar ddydd Sadwrn, Mai 5 mewn tri lleoliad gwahanol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Bydd Iolo Williams y tu-allan i’r castell yn Y Fflint; bydd Shân Cothi ar y prom yn Aberystwyth; ac fe fydd Lowri Morgan yn mwynhau’r dathliadau y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Bydd y digwyddiadau i gyd yn dechrau am 11yb – ac mae croeso i chithau ddod i ymuno yn y dathliadau!
Croeso!
Cliciwch ar y lliwiau isod i ddarllen mwy am y rhan yna o’r llwybr
- Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy
- Ynys Môn
- Menai, Llŷn a Meirionnydd
- Ceredigion
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
- Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren
- Llwybr yr Arfordir eisoes ar agor ac yn cael ei hyrwyddo. Gwelliannau ar y gweill.
- Nid yw Llwybr yr Arfordir wedi’i hyrwyddo eto. Ond mae modd cerdded ar hyd sawl rhan o’r llwybr eisoes.
