Neidio at y cynnwys

S4C

Iolo Williams

Iolo Williams

Ganwyd Iolo Williams yn Llanfair-ym-muallt yn 1962 ond symudodd ei deulu yn fuan wedi hynny i ogledd Sir Benfro a, phan oedd Iolo’n bum mlwydd oed, i bentref bach Llanwddyn yng ngogledd Powys. Ar ôl graddio o Goleg Polytechnig Gogledd Ddwyrain Llundain gyda gradd mewn Ecoleg, dychwelodd Iolo i ganolbarth Cymru – ac wedi cyfnod yn gweithio ar fferm fynyddig, ac yna ym myd coedwigaeth, cafodd swydd fel Swyddog Rhywogaethau i Gymru gyda’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn 1985.

Oherwydd y swydd honno, daeth Iolo i sylw’r cyfryngau, ac yn 1998, gadawodd y RSPB i fynd i weithio ym myd y cyfryngau. Ers hynny, mae wedi cyflwyno rhaglenni bywyd gwyllt a natur yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer y BBC ac S4C. Mae wedi bod yn rhan o dîm cyflwyno cyfres Bro ers 2009, ac yn mwynhau’n arw teithio o un cwr o Gymru i’r llall yn cyfarfod â phob math o gymeriadau difyr.

Mae Iolo bellach yn wyneb cyfarwydd i wylwyr teledu ledled Prydain oherwydd ei waith yn cyfrannu i gyfresi Springwatch ac Autumnwatch ar y BBC, ac fe fydd yn gwneud mwy o waith ar y cyfresi yma eto yn 2012.

Shân Cothi

Sian Cothi

Ganwyd Shân Cothi yn Ffarmers ger Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin a graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae wedi bod yn gantores unigol broffesiynol ers 1995 – pan enillodd hi’r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymddangosodd Shân hefyd ar lwyfan y West End, gan bortreadu rhan Carlotta am bymtheg mis yng nghynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o The Phantom of the Opera yn Her Majesty’s Theatre yn Llundain.

Mae Shân wedi bod yn rhan o dîm cyflwyno ‘Bro’ ers 2009, ac ers hynny wedi cael cyfle hefyd i gyflwyno rhaglenni fel Y Porthmon, Y Goets Fawr a Llais i Gymru. Yn 2008, sefydlodd Shân yr elusen Amser Justin Time i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymchwil Cancr y Pancreas, a hynny er cof am ei gŵr, Justin ‘Pepsi Tate’ Smith a fu farw o’r salwch yn 2007.

Lowri Morgan

Lowri Morgan

Daw Lowri Morgan o Dregŵyr ger Abertawe, a mynychodd Ysgol Gynradd Bryn y Môr ac Ysgolion Cyfun Gŵyr ac Ystalyfera. Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd, ac aeth i deithio am flwyddyn cyn dychwelyd i Gymru a chael gwaith yn dysgu cyn dechrau ar ei gyrfa cyflwyno gyda rhaglenni Planed Plant ac Uned 5.

Fel merch sydd wrth ei bodd yn wynebu her, mae Lowri wedi cael ei magu ar adrenalin. Yn 2009, fe wynebodd ei hantur fwyaf ar gyfer cyfres newydd Ras yn Erbyn Amser, sef cystadlu mewn ras 222km ar draws Jyngl yr Amazon, am 7 diwrnod, a hynny'n hollol hunangynhaliol. Yn 2011 fe goncrodd Lowri Morgan yr Arctig ac ennill ras eithafol y 6633 Ultra yng nghanol y tywydd gaeafol ac amgylchiadau peryglus. Gan frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig, roedd gofyn i’r cystadleuwyr gwthio’u cyrff i’r eithaf dros 350 o filltiroedd mewn wyth diwrnod. Llwyddodd Lowri i gwblhau’r ras mewn 174 awr ag wyth munud .

Mae Lowri’n ymuno â thîm cyflwyno Bro am y tro cyntaf eleni, ac yn edrych ymlaen i gyfarfod â phob math o gymeriadau difyr sy’n byw ac yn gweithio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.