Y Gyfres
Rhaglen 1 – 03/04/2012
Yn rhaglen gyntaf y gyfres mae Shân Cothi yn cael profi llwybr yr arfordir o’r awyr yn dilyn sgwrs gyda Maldwyn Williams ym maes awyr Caernarfon tra bod Iolo Williams yn blasu cerdded y llwybr yng nghwmni Olive Corner sydd yn berchen cenelau yn ardal Porthcawl. Rhoi cynnig ar eirafyrddio gyda’r hyfforddwr Bedwyr ap Gwyn ar ben y Gogarth yn Llandudno yw tasg gyntaf Lowri Morgan wrth ymuno â’r tîm. Mae cyfle hefyd i ddod i adnabod Gwion Llŷr sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn diddori mewn ‘parkour, sef symud yn effeithiol o le i le gan ddefnyddio pob math o driciau corfforol.
Rhaglen 2 – 10/04/2012
Marchogaeth ar hyd Traeth Ogwr yng nghwmni Brychan Llŷr mae Shân Cothi yn ei wneud yn ail raglen Bro…Llwybr yr Arfordir tra bod Lowri Morgan mewn cerbyd unigryw yn ardal Y Barri yn sgwrsio gyda’r perchennog James Williams. Mae Iolo Williams yn profi teithio ar ddwy olwyn ar hyd y llwybr yng nghwmni’r beiciwr Richard Jones ar Ynys Môn ac yn cyfarfod â Sara Beechey sy’n berchen ar Y Llong yn Llangrannog. Mae cyfle hefyd i ddysgu mwy am syrffio barcud gyda Shem ap Geraint yn Aberdyfi a chadw’r llwybr yn daclus yng Nghei Newydd yng nghwmni Richard Thomas.
Rhaglen 3 – 17/04/2012
Yn ystod y drydedd rhaglen yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru, mae Iolo Williams yn cael cyfle i gwrdd â Dai Jenkins, sy’n gymeriad arbennig yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn ogystal â gweld bwthyn Porth Swtan yng nghwmni Bryn Jones, Warden Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gogledd Ynys Môn. Mae Shân Cothi yn rhoi tro ar saethyddiaeth mewn canolfan antur ym Mhentywyn o dan gyfarwyddyd Gethin Jones tra bod Lowri Morgan yn dysgu mwy am sut i greu celf o froc môr gyda Lizzie Spikes ar draeth Llanon yng Ngheredigion. Mae Iolo Williams hefyd yn cael cyfle i ddysgu mwy am adeiladu beiciau modur yn Y Felinheli gydag Alun Roberts.
Rhaglen 4 – 24/04/2012
Mae’r criw yn parhau i deithio Llwybr Arfordir Cymru, gydag Iolo Williams yn cael cyfle i fynd ar daith go arbennig o gwmpas Bae Aberteifi yng nghwmni Alan Giles ac yn cyfarfod â Rhian Williams wrth gerdded ar hyd Traeth Penllech. Mae Shân Cothi’n blasu cyffug Linda Robertson ym Mhwllheli tra bod Lowri Morgan yn rhoi tro ar syrffio gyda Tom John ar arfordir y Gŵyr. Mae Iolo Williams a Shân Cothi hefyd ar faes y gad yn Amroth yng nghwmni Aneurin Miles ac mae cyfle i glywed mwy am hanes teulu Jon Meirion Jones yng Nghwmtydu hefyd.
Rhaglen 5 – 01/05/2012
Yn y bumed rhaglen yn y gyfres, sy’n parhau i ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, mae Iolo Williams a Shân Cothi yn dysgu mwy am y Cadetiaid Awyr ym mhentref Llanbedr yng nghymuned Dyffryn Ardudwy gydag Awyr-Lefftenant Carwyn Roberts tra bod Lowri Morgan gyda Mags Edwards yn dysgu mwy am gwch arbennig Her Cymru ym Mhenarth. Mae Iolo Williams yn profi snorcelu dŵr yn Hafan Martin gydag Ifor Griffiths ac yn cyfarfod â theulu’r Lloyd Jones i ddysgu mwy am waith Angorfa Abersoch. Mae Shân Cothi hefyd yn cwrdd â’r arlunydd Robert Dafydd Cadwalader, sy’n cael ei ysbrydoli gan donnau’r môr yng Nghricieth.
