S4C

Close
Flash is required to view this video
Nos Fercher am 21:00

Rhydian yn cyflwyno talent newydd

Mae'r canwr Rhydian Roberts, a ddaeth yn enwog drwy'r gyfres dalent deledu The X Factor yn 2007, wedi bod yn teithio dros Gymru gyfan yn chwilio am berfformwyr newydd ar gyfer ei gyfres Rhydian fydd yn cychwyn ar S4C nos Fercher 9 Tachwedd am 9 o'r gloch.

Bydd yr wyth gorau'n ymddangos gyda pherfformwyr adnabyddus yn y gyfres o wyth o raglenni.

"Mi fydd y gyfres yn sioe o adloniant pur fydd hefyd yn gyfle i dalentau newydd ddisgleirio," meddai Rhydian, sydd yn wreiddiol o Bontsenni.

"Talent fydd y brif ffactor yn y gyfres a rhoi llwyfan i berfformwyr o Gymru. Mae cyfleoedd fel hyn yn brin. Heblaw am Eisteddfod yr Urdd, does 'na'm llawer o gyfle i ieuenctid gael llwyfan i'w talent. Mae'r Urdd yn blatfform da i feithrin talent - cael perfformio o flaen cynulleidfa ac ar y teledu. Ond mae angen cyfleoedd wedyn i symud ymlaen i gael ychydig o star treatment - ychydig o golur a gwisg fwy diddorol nag iwnifform ysgol."

Tan yn ddiweddar bu'n chwarae rhan Kashoggi, pennaeth yr heddlu, yn sioe gerdd Queen a Ben Elton, We Will Rock You yn yr Hippodrome, Birmingham.

Ym mis Awst rhyddhaodd ei albwm diweddaraf 'Waves,' gyda'i sengl gyntaf 'The Promise ar werth fis ynghynt. Ddechrau mis Hydref, ymunodd Rhydian a chast Grease ar daith yng ngogledd Lloegr.

Bydd llu o westeion enwog hefyd yn ymuno â Rhydian yn y gyfres a recordiwyd gan gwmni teledu Avanti, yn Stiwdio'r Ddraig, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ymhlith y gwobrau enillodd Rhydian yn ei ddyddiau coleg yn y Birmingham Conservatoire oedd Gwobr Mario Lanza, Gwobr Cân Saesneg Reginald Vincent ac Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier i gantorion ifanc.

Mae Rhydian yn teimlo'n gryf y gall un person fod yn ddylanwadol iawn yng ngyrfa perfformiwr. "Hoffwn i drio gwneud gwahaniaeth i artistiaid newydd yng Nghymru sydd heb gael y cyfle dw i wedi ei gael," meddai.