Dydi pethau ddim yn hawdd yn nhŷ Jackie, ac mae’r un peth yn wir am fusnes tacsis K-Kabs – a ’wnaeth rhannu pamffledi yr wythnos ddiwethaf ddim lles.
Mae Dani dal yn flin a dydi hi ddim yn edrych ymlaen at fynd i’r ysgol; fe fydd ganddi hi lawer o waith copïo i’w wneud.
I’r gwrthwyneb, mae Nel yn meddwl yn siŵr ei bod hi am gael hwyl yn yr ysgol heddiw, a hynny ar draul Liam a Dafydd. Ond mae pethau’n mynd o chwith ac, yn anffodus i Llio, hi sy’n gorfod dioddef.