Yn yr ysbyty mae Wyn, Dani a Gemma wedi gwario noson ddi-gwsg yn poeni am Cathryn a’r babi – beth fydd eu tynged? Hefo arian y benthyciad yn y banc a’r tendr ysgol i mewn hefo Jim mae petha’n edrych yn fwy positif i’r K’s – ond erbyn diwedd y … Mwy →
Er ei bod hi’n ddiwrnod penblwydd i Kay does yna ddim lot o awydd dathlu ar y K’s hefo’r busnes dal mewn trafferthion a Ken yn gweithio bob awr i drio achub eu bywoliaeth. Mae gan ddisgyblion blwyddyn 11 ddathliadau lot mwy difyr ar y gweill, ac ambell i syrpreis … Mwy →
Mae problemau’r K’s, yn enwedig Ken, yn cynyddu, ac os oedd criw’r chweched yn meddwl bod noson yn y theatr yn ddiflas, mae diwrnod yn yr amgueddfa yn waeth byth. Fyddai’n llawer gwell gan Llio a Mathew fod yn rhywle arall hefyd. Mae Cathryn druan yn meddwl bod y byd … Mwy →
Diwrnod trip y chweched i Lerpwl, ac mae pawb yn edrych ymlaen. Mae Dafydd a Gemma wedi edrych ymlaen ers dyddiau am gael cysgu mewn ystafell wely ddwbwl, foethus. Cysgu’n hwyr mae Mathew, ac o’r eiliad honno ‘mlaen, mae ei ddiwrnod yn mynd o ddrwg i waeth…nes mae’n cyrraedd y … Mwy →
Mae’r pwysau yn cynyddu ar Arthur wrth i’r pentre cyfan amau mai fo oedd yn gyfrifol am roi diesel coch yn nhacsi’r K’s. Wedi i Iris ei gornelu mae Arthur yn penderfynu mai dim ond un ffordd sydd ‘na o achub ei groen ei hun… cyhuddo rhywun arall. Er bod … Mwy →
Mae sgandal y diesel coch yn dal i ffrwtian yn y pentref ac mae Ken ar dân isio dod o hyd i’r un sy’n gyfrifol. Problem o fath cwbl wahanol sydd yn nhŷ Jackie wrth i Liam a Dafydd ddangos eu bod wedi anghofio’r drwg-deimlad a fu er mwyn cyd-weithio … Mwy →
Mae ymweliad annisgwyl i K-Kabs yn peryglu dyfodol y busnes. Tra bod Arthur yn ymddwyn yn amheus, mae Dafydd yn gorfod wynebu’r oblygiadau wrth iddo ddweud un celwydd yn ormod wrth Mathew. Mae Cathryn yn paratoi i’r babi gyrraedd ond mae Gemma’n amau a yw Wyn yn ei chefnogi. Ac … Mwy →
Mae Mathew wedi ‘laru ar Dafydd yn y tŷ ac yn mynnu bod Alwyn yn sortio’r sefyllfa. Er gwaethaf gobeithion Glenda, tydi Sophie ddim yn mwynhau ei thrip ar y trên efo Gavin a bydd yn cael trafferth i frathu ei thafod ynglŷn âi theimladau. Mae Llio’n camddeall pam fod … Mwy →
Mae Arthur yn brysio Jason a Dale i gasglu eu pethau ben bore. Mae’r ddau’n cael mynd efo Ben, eu tad, ar y fferi i Ddulyn am y diwrnod ac mae Arthur yn edrych ymlaen at gael llonydd. Mae o ffansi pryd o fwyd rhamantus efo Iris. Ond mae tuedd … Mwy →
Mae Dyfan ar ryw berwyl drwg wrth iddo sdelcian lawr y grisiau ben bore, ond mae’n rhaid iddo godi’n gynt o lawer i gael y gorau ar ei fam. Mae Siân wedi codi’n gynnar hefyd ac wedi gadael am Gwmbran ond dydi Mathew ddim mor awyddus â Dafydd i rannu … Mwy →
A’i gar yn dipiau yn y garej mae Arthur yn ei chael hi’n annodd i redeg ei fusnes a chymaint o bobol yn holi am ei wasanaeth. Does ganddo ddim dewis ond gofyn i Iris am fenthyg arian i brynu car arall ond mae Iris ymhell o fod yn fodlon … Mwy →
Mae Arthur yn jarffio gyda’i gardiau busnes newydd – rhain sydd yn mynd i sicrhau ei lwyddiant. Yn anffodus tydi ei lwyddiant ddim yn para’n hir iawn wrth i’w gar newydd gael ychydig o drafferth ar y ffordd fawr.Mi fydd rhaid i’r Kays wneud rhywbeth am y peth ynbydd? Trafferth … Mwy →







