Cronicl Cilbedlam
Yn ogystal a’r cwmni tacsis, mae’r teulu Walsh wedi bod yn berchen ar gwt cludfwyd o’r enbw K-Babs a laundrette o’r enw K-Wash.
Cronicl Cilbedlam
Mae Jim Gym a Kelvin Walsh yn rhannu yr un diwrnod penblwydd!
Cronicl Cilbedlam
Pan noddwyd crysau pêl-droed y pentref gan siop Morton’s, roedd ‘na gamgymeriad a daeth y crysau yn ôl heb ‘t’. Bu rhaid i’r tîm redeg i’r maes efo “Morons” ar eu crysau!
Cronicl Cilbedlam
Llwyddodd Lucy i ennill y gystadleuaeth pool cyntaf yn Q’s wedi i Aled dorri ei fraich a methu chwarae’r ffeinal!
Cronicl Cilbedlam
Priodas Miss Sue Charles, athrawes Drama ac Ymarfer Corff yn yr ysgol, a Glyn Parri, tad Dylan a Ffion, oedd y briodas cyntaf ar Rownd a Rownd
Cronicl Cilbedlam
Dyw Glenda ddim yn wych efo technoleg a phan mae hi’n siopa bwyd ar y we am y tro cyntaf, mae hi’n archebu 11 treiffl mewn camgymeriad!
Cronicl Cilbedlam
Cyn chwaraewr rygbi Cymru, Robin McBride, oedd y dyfarnwr pan drefnwyd gêm bêl-droed elusenol yng Nghilbedlam
Cronicl Cilbedlam
Bu rhaid i Kelvin Walsh sefyll ei brawf gyrru dair gwaith cyn iddo sicrhau ei drwydded
Cronicl Cilbedlam
Treuliodd y gweinidog, Alun Powell, gyfnod yn dysgu Addysg Grefyddol yn Ysgol Glanrafon
Cronicl Cilbedlam
Mae Arthur wrth ei fodd â threnau bach – rhywbeth ceisiodd gadw yn gyfrinach rhag Barry, Jason a Dale
Cronicl Cilbedlam
Cafodd Beca ei braich yn sownd mewn blwch llythyrau wrth geisio bachu bapur newydd roedd wedi ei rhoi drwy flwch y tŷ anghywir!
Cronicl Cilbedlam
Nid Terry ydi tad Sophie a Lucy. Gŵr o’r enw Steven King, oedd yn chwarae gitar bâs mewn band o’r enw yr Inner Light yw tad y merched.