
Gyda Llio James yn ymuno ag ystafell athrawon Ysgol Glanrafon rydym ni wedi chwilio yn ôl trwy’r archif i ddod o hyd i’r athrawon eraill sydd wedi gwneud eu marc ar Rownd a Rownd dros y blynyddoedd.
Yn amlwg, Jim ‘Gym’ Williams yw’r athro mwyaf adnabyddus yn Ysgol Glanrafon. Roedd yn athro ymarfer corff yn yr ysgol am sawl blwyddyn ac er gwaetha’r ffaith ei fod bellach yn brifathro yn yr ysgol, mae pawb yn dal ei adnabod fel Jim ‘Gym’!
Roedd gan Dylan a Ffion – dau o’r pedwar rowndiwr gwreiddiol – berthynas digon lletchwith gyda Miss Sue Charles, eu hathrawes Drama ac Ymarfer Corff gan i Miss Charles briodi eu tad, Glyn, a dod yn Mrs Parri!
Mae’n deg dweud fod Miss Delyth Edwards wedi gwneud cryn argraff ar Greg tra’n dysgu Cymraeg yn Ysgol Glanrafon. Dechreuodd Greg stelcian Miss Edwards a’i dilyn y tu allan i’r ysgol a thynnu lluniau ohonni yn siopa ac yn cymdeithasu.
Myfyrwraig oedd Miss Caren Ellis yn yr ysgol, ond doedd na ddim llawer o siâp ar ei gwersi Ffrangeg gyda’r disgyblion yn chwarae’n wirion ac yn gwrthod gwrando. Yn anffodus i Miss Ellis … a’i gyrfa dysgu … fe chollodd ei limpyn gyda Kelvin un diwrnod gan rhoi slap iddo ar draws ei wyneb yng nghanol gwers!

Tua’r un adeg â Miss Ellis, roedd Miss Ceri Parry yn athrawes cerdd yn yr ysgol, ond nid fel Miss Parry oedd y disgyblion yn ei hadnabod, ond fel Ceri Cwefyr! Byr iawn oedd cyfnod Ceri Cwefyr yn yr ysgol, ond digon hir i Ken Walsh geisio taro arni!
Daearyddiaeth oedd pwnc Mr Elfyn Simmonds, ond roedd yn dipyn o ddyn efo’r merched gan gaboli â Lucy cyn dechrau perthynas efo’i chwaer, Sophie! Chwalwyd priodas Sophie ac Eifion wedi i Eifion ddeall fod Sophie wedi treulio’r noson cyn eu priodas gydag Elfyn – ac yntau’n was priodas i Eifion!
A chafodd Mrs Bethan Williams, neu Bethan ‘Cookery’ fel roedd pawb yn ei hadnabod, sawl berthynas annisgwyl tra’n dysgu yn yr ysgol hefyd. Dechreuodd gaboli gyda Jim ‘Gym’ ac roedd y ddau wedi llwyddo i gadw’r berthynas yn gyfrinach tan i Kelvin a Vince weld y ddau’n cyfarfod yn y goedwig!

Yn ddiweddarach, dechreuodd Bethan ‘Cookery’ berthynas ag aelod llawer iau o’r staff pan ddechreuodd gaboli gyda Mr Mathew Parry hyn er bod Mathew eisoes yn canlyn gyda Cathryn!
Mab Philip Parry sy’n cadw’r siop bapur, ydi Mathew, ac wedi cyfnod o weithio fel athro llanw yn yr ysgol cafodd ei benodi’n athro Ymarfer Corff a Mathamateg llawn amser.
Ymunodd Paul Morris â staff Ysgol Glanrafon fel myfyriwr ac fe’i cafodd yn anodd, fel sawl darpar athro, i gadw rheolaeth ar ei ddosbarthiadau.
Ond ar ôl llwyfannu sioe gerdd lwyddianus, cafodd ei dderbyn gan y disgyblion, yn enwedig criw’r Chweched Dosbarth, a bellach mae Paul wedi ei benodi’n athro drama llawn amser yn yr ysgol.