S4C

Cast Rownd a Rownd
  • Gwylio Rownd a Rownd
  • Be sy’n digwydd
  • Cymeriadau
  • Fideos
  • O’r Archif

K-Babs ar dân

K-Babs ar dân

Gyda’r Tŷ Pizza yn agor yng Nghilbedlam, mae Philip yn credu fod ei fusnes o dan fygythiad, ond nid dyma’r tro cyntaf i rhywun agor busnes bwyd i gystadlu gyda Sgram.

Pan gyrhaeddodd y teulu Walsh Gilbedlam er mwyn cymryd awenau’r busnes tacsis yn y sgwâr, fe barciodd y teulu K-Babs, cwt cludfwyd kebabs, y tu allan i’w swyddfa.

Gyda’r busnes newydd ar stepen drws caffi Sgram, roedd hyn yn peri cryn bryder i Nia, oedd yn rhedeg y caffi ar y pryd, gan bod nifer o’i chwsmeriaid arferol wedi dechrau prynnu bwyd gan K-Babs.

Ond daeth y busnes i ben mewn ffordd hynod o ddramatig pan ffrwydrodd y cwt …

… ac i wneud pethau’n waeth, roedd Ken a Kay yn ofni fod Klaire yn y cwt.

Ond yn ffodus i bawb fe ddaethpwyd o hyd i Klaire, oedd wedi bod yn chwarae yn y tŷ a heb fynd yn agos at K-Babs!

K-Babs yn ffrwydro