Beth sy'n digwydd?
Pennod 34
Arthur yn rhoi llond pen i Mathew am wneud i Dale redeg rownd cae ddeg o weithiau o flaen pawb heb wybod ei fod wedi bod yn twyllo yn y traws-gwlad. Mae Dale yn ei chael hi ganddo ar ôl deall hyn.
Lowri yn gwrthod cynnig Sion am ddêt.
Mr Lloyd yn dal i fwydro Vince am gluniadur newydd sydd yn ei adael efo dim opsiwn arall ond bod allan o boced a thalu am un newydd sbon.
Sgidiau rhedeg Adam wedi rhwygo a Julie yn gwrthod prynu rhai newydd yn ei adael y siomedig na fydd yn gallu rhedeg yn y ras sirol.
Gemma yn mynd am ei dêt cynta efo Dafydd. Ar ôl gorfod newid gan ei bod hi wedi gwisgo'n anaddas dyma nhw'n cael llond bôl o hwyl yn y lle rhaffau.
Pennod 35
Arthur wrth ei fodd yn dweud wrth Iris, Dale a Jason ei fod wedi archebu penwythnos i'r teulu yn Leighton Buzzard i gael gweld trenau stêm. Dale a Jason ddim hanner mor frwdfrydig ynghylch y syniad.
Jason yn esgus derbyn galwad ffon gan ei dad er mwyn cael mynd i aros ato yr un penwythnos aaa'r gwyliau i Leighton Buzzard ond Barry sydd ar ben arall y ffôn.
Nel yn gofyn i Alwyn brynu sgidiau rhedeg i Adam.
Mathew a Siân yn mynd ar eu dêt cyntaf. Mathew yn dangos ei hun drwy fwyta wystrys ond yn cael gwenwyn bwyd sydd yn ei adael yn rhoi llawer mwy o sylw i'r toilet na'c i Siân am weddill y noson!
Noson dangos y gwefannau o flaen beirniaid y cyngor plwy. Er bod gwefan y criw hŷn yn un di-fflach a hen ffasiwn tra bod gwefan y criw ifanc yn un lliwgar llawn fideos a chaneuon gwreiddiol, y criw hŷn (+ Dyfan) sydd yn mynd â hi. Mae'r rhai ifanc yn ofnadwy o siomedig nad ydynt wedi ennill y can punt ond daw Wyn i achub y dydd a chodi eu calonnau drwy gynnig dau punt o "arian datblygu" iddynt. Maent wrth eu bodd!
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc S4/Cymorth



