Llongddrylliadau eraill
Mae dros 400 o longddrylliadau oddi ar arfordir Sir Fôn. Dros y canrifoedd mae llawer o longau, llongau tanfor, eu criw a'u teithwyr wedi dod i ddiwedd eu dyddiau ar yr arfordir tymhestlog hwn.
-
Un o longddrylliadau hynaf gogledd Cymru...
-
Un o'r llongau stêm cyntaf...
-
Llong danfor newydd y Llynges Frenhinol...
-
Stemar 506 tunnell...
Hindlea
Roedd yr Hindlea yn stemar 506 tunnell oedd wedi gorfod symud i lecyn cysgodol ym mae Moelfre yn ystod storm yn 1959.
Erbyn i'r bad achub lleol gyrraedd yr Hindlea, roedd y llong eisoes wedi ei gyrru'n agosach at y creigiau ac roedd hi'n sefyllfa beryglus iawn i griw'r llong a'r bad achub.
Roedd y tonnau anferth yn codi'r bad yn uwch na'r llong ac yna yn ei gollwng yn is na hi, bob yn ail. Ond bob tro y cododd y bad at lefel dec yr Hindlea byddai un aelod o'r criw yn neidio i ddiogelwch y bad achub.
Llwyddwyd i achub y criw o wyth - un o orchestion mwyaf yn hanes badau achub Ynysoedd Prydain.

