Llongddrylliadau eraill
Mae dros 400 o longddrylliadau oddi ar arfordir Sir Fôn. Dros y canrifoedd mae llawer o longau, llongau tanfor, eu criw a'u teithwyr wedi dod i ddiwedd eu dyddiau ar yr arfordir tymhestlog hwn.
-
Un o longddrylliadau hynaf gogledd Cymru...
-
Un o'r llongau stêm cyntaf...
-
Llong danfor newydd y Llynges Frenhinol...
-
Stemar 506 tunnell...
Y Royal Yacht Mary
Y Royal Yacht Mary yw un o'r llongddrylliadau hynaf yng Ngogledd Cymru. Adeiladwyd y llong i'r Brenin Siarl II a hon oedd y llong Brenhinol cyntaf.
Cafodd ei gyrru i'r lan gan wyntoedd cryfion a niwl ac fe'i drylliwyd ger Ynysoedd y Moelrhoniaid yng ngogledd orllewin yr ynys yn 1675.
Collwyd Iarll Meath a thri deg tri o'r saith deg tri ar ei bwrdd. Bu'n rhaid i'r rhai wnaeth oroesi aros am ddeuddydd ar greigiau cyn cael eu hachub gan long o Fiwmares.

