Diwrnod du'r Royal Charter
I mi, hanes y Royal Charter—y llong, ei chyfnod a'i diwedd trychinebus, ydy'r stori fwyaf rhyfeddol yn y byd. Dw i wastad wedi teimlo rywsut fod y stori yn perthyn yn arbennig i mi. Ar greigiau fy mhentref genedigol ym Moelfre, Ynys Môn y drylliwyd y llong. Bu colled enbyd o fywydau ac roedd fy hen hen daid, William Jones yn hogyn bach pan fu'n dyst i'r cyfan. Er fod pedair cenhedlaeth rhwng William Jones a finna', mae'r cysylltiad yn teimlo'n llawer agosach. Fe gollodd fy nhaid ei dad yn ystod y Rhyfel Mawr pan gollwyd yr SS Arbonne a phawb oedd arni. William Jones fagodd fy nhaid wedi hynny.
1 o 8
gan Bedwyr Rees
Flynyddoedd yn ddiweddarach, fe dreuliais i lawer o amser efo fy nhaid gan i minnau hefyd golli 'nhad yn ifanc. Rydw i wedi cael fy magu felly yn sŵn stori'r Royal Charter ac yn teimlo rhyw lun o gysylltiad uniongyrchol efo William Jones a hanes llongddrylliad enwocaf Cymru.
Roedd y Royal Charter yn un o longau mwyaf blaenllaw oes Fictoria. Roedd hi'n foethus tu hwnt ac yn eithriadol o gyflym am ei chyfnod, gan allu mynd o Lerpwl i Melbourne mewn llai na 60 diwrnod. Roedd y gold rush yn Awstralia ar ei anterth a phan oedd y Royal Charter yn hwylio'n ôl am Lerpwl ym mis Hydref 1859, roedd gwerth £322,440 o aur arni.
2 o 8

