Diwrnod du'r Royal Charter
Roedd y teithwyr mewn hwyliau da - yn gwledda, yn dawnsio ac yn bennaf oll yn gyfoethog. Mae'r erchyllterau a ddaeth i'w rhan wedyn yn wers mewn hyfdra dynol, oferedd ariangarwch a grym anorchfygol y môr.
Roedd Capten Taylor wedi gwneud addewid i'w deithwyr y byddai'r Royal Charter yn cyrraedd Lerpwl o fewn pedair awr ar hugain o adael Queenstown, Iwerddon gan dorri ei record ei hun am y fordaith. Wrth i'r llong ddod rownd Pwynt Leinas ar gymal olaf ei thaith fodd bynnag, fe'i daliwyd mewn corwynt na welwyd mo'i debyg o'r blaen.
3 o 8
gan Bedwyr Rees
Ceisiodd y criw droi'r llong am ehangder môr Iwerddon ond doedd dim yn tycio. Roedd hi wedi ei dal mewn trap angheuol. Gyda dim byd ond creigiau Môn tu ôl iddi, roedd y Royal Charter, a'r holl eneidiau arni, ar drugaredd y gwynt. Mesach Williams, brodor o bentref Moelfre, oedd y cyntaf i sylweddoli fod rhywbeth mawr o'i le.
O'i dŷ ar ael y bryn yn edrych dros y bae, roedd o'n gallu gweld goleuadau'r llong fel pinnau bawd yn disgleirio drwy'r ddrycin. Fe redodd i nôl cymorth a phan gyrhaeddodd dynion y pentref y creigiau ger Porth Eleth, fe'u syfrdanwyd gan yr olygfa o'u blaenau.
4 o 8

