Diwrnod du'r Royal Charter
Doedd y Royal Charter ddim pellach na thafliad carreg o'r lan. Gyda'r môr yn torri drosti ac yn bygwth chwalu'r llong yn dipiau mân, fe wnaeth Issac Lewis, hogyn o'r pentref oedd yn gweithio ar fwrdd y llong, adnabod ei dad ar y lan. Roedd o'n ddigon agos i allu gweiddi,
"O Nhad, rydw i wedi dod adref i farw."
Gwnaethpwyd popeth posib i achub bywydau y noson honno ac roedd fy hen hen daid yn dyst i'r cyfan. Dangosodd yr "wyth ar hugain" o ddynion Moelfre ddewrder aruthrol wrth ruthro ar hyd y creigiau llithrig i lusgo pobl o grafangau'r tonnau. Roedd nifer o'r rhai a achubwyd yn gwbl noeth.
5 o 8
gan Bedwyr Rees
Aeth y merched mewn ffrogiau Fictorianaidd llaes a'r dynion oedd yn drwmlwythog ag aur yn syth i waelod y môr. Roedd William Jones yn cofio sut iddo wylio dynion y pentref yn tynnu pobl ar hyd rhaff o'r llong i'r lan.
Yr eiliad wedyn, torrodd y Royal Charter ei chefn gan daflu pawb i'r môr i gael eu hyrddio'n ddidrugaredd yn erbyn y creigiau. Nid boddi wnaeth y rhan fwyaf, ond cael eu malurio yn erbyn y clogwyni gan rym eithriadol y tonnau. Ni ddylai'r un hogyn deuddeg oed orfod gweld y fath gelanedd ac mae'n rhaid ei fod wedi effeithio ar William Jones.
Bu farw dros 450 o bobl i gyd, gan gynnwys Issac Lewis.
6 o 8

