Diwrnod du'r Royal Charter
Ar ôl teithio hanner ffordd rownd y byd o Awstralia, fe fu iddo farw ar ei sdepan drws. Mae meddwl am hynny wastad yn fy ysgwyd i.
Yn yr wythnosau a ddilynodd, fe fflangellwyd y trigolion lleol gan y wasg yn Llundain oedd yn eu cyhuddo o ddwyn aur oddi ar gyrff y meirw. Pan ymwelodd Charles Dickens â'r pentref fodd bynnag, roedd o'n llawn edmygedd am ddewrder y dynion lleol ac am dynerwch a gofal rheithor Llanallgo wrth gofnodi a chladdu cyrff y meirw.
Aeth straen yr holl beth yn ormod i'r Parchedig Stephen Roose Hughes yn y diwedd ac fe fu farw yn ddyn ifanc iawn.
7 o 8
gan Bedwyr Rees
Mae'n un o fy arwyr mawr ac fe wnes i bortread ohono fel rhan o fy nghwrs gradd. Mae cofeb iddo ym mynwent Llanallgo, ger cyrff y trueiniaid y bu ef mor Dduwiol yn ei ofal ohonynt. Mae William Jones a 'nhaid yn gorwedd gerllaw a phan ddaw'r diwedd, mae'n debyg mai fan'no fyddaf innau hefyd.
Yn ei ragair i 'Ofnadwy Nos', fe ddywedodd T. Llew Jones mai nid ef oedd y person i 'sgwennu hanes y Royal Charter "i'r oesoedd a ddêl".
Pan oeddwn i'n hogyn bach, roeddwn i'n breuddwydio mai fi fyddai'r un i wneud hynny. Dyna hyfdra plentyn! Rydw i'n ddigon hen bellach i sylweddoli na allwn i fyth gyflawni'r ffasiwn dasg yn deilwng —ond rydw i'n falch o'r fraint o gael gwneud fy nghyfraniad bychan i'r stori ryfeddol hon.
8 o 8

