Neidio at y cynnwys

S4C
  • Ryan a Ronnie - Aled Pugh a Rhys ap Hywel
  • Ronnie - Rhys ap Hywel
  • Ryan a Ronnie - Aled Pugh a Rhys ap Hywel
  • Ronnie - Rhys ap Hywel
  • Ryan - Aled Pugh
  • Ryan a Ronnie - Aled Pugh a Rhys ap Hywel
Logo Ryan a Ronnie

Ryan a Ronnie

Ffilm gan Meic Povey sy'n dilyn un diwrnod tyngedfennol ym mywyd y difyrwyr pan oedd eu partneriaeth lwyddiannus ar fin chwalu.

Yn y 1960au a'r 1970au, Ryan Davies a Ronnie Williams oedd eilunod adloniant Cymru - bellach nhw yw testun y ffilm Ryan a Ronnie sy'n cael première teledu Ddydd Nadolig ar S4C.

Aled Pugh - a chwaraeodd Ryan yn y ddrama lwyfan The Life of Ryan and Ronnie - sy'n chwarae'r diddanwr disglair o Lanaman, a Rhys ap Hywel sy'n chwarae ei bartner llwyfan dawnus o Gefneithin, Ronnie.

Mae Ffion Dafis, Lauren Phillips a Glan Davies hefyd yn ymddangos yn y ffilm, a gyfarwyddwyd gan Rhys Powys a'i chynhyrchu gan Branwen Cennard.

Cân i Ryan

Addaswyd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm gan Arwyn Davies, mab Ryan.

Mae'r rhaglen ddogfen yma'n dilyn siwrnai Arwyn Davies, mab y diddanwr, canwr a'r cyfansoddwr Ryan Davies, wrth iddo fynd i'r afael ag ail osod cerddoriaeth boblogaidd ei dad ar gyfer ffilm arbennig ar fywyd y ddeuawd hoffus a thalentog, Ryan a Ronnie.

O'i stiwdio gerdd yn llofft y tŷ i recordio yn Llundain, mae'n broses hir ac emosiynol, ac yn un sy'n dwyn atgofion chwerw melys i Arwyn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales