Byd Gwyn
Nid oedd yn syndod i mi i weld Gavin Henson yn ôl yng ngharfan Cymru. Er taw tair gêm mae e wedi chwarae dros y Gleision a dim ond un yn ei hoff safle fel canolwr, roedd Gatland yn benderfynol o’i enwi yn y garfan. Mae’n amlwg yn uchel ei barch ymhlith yr hyfforddwyr.
Mae Gatland, Howley ac Edwards yn credu bod ganddo sgiliau penodol, nous a safon sy’n wahanol i chwaraewyr eraill. Yn sicr, mae ganddo weledigaeth ar y cae ac mae’n gallu darllen y gêm yn gyflym, ac yn ogystal â hynny, yn gallu cyfathrebu’r hyn mae’n ei weld i weddill yr olwyr.
Wrth ymosod, mae’n gallu cynghori maswyr pryd i basio, pryd i gicio a pa fath o bas sydd ei angen, naill ai’n hir neu’n fyr.
Mae gan y tîm hyfforddi ffydd yn ei allu i amddiffyn. Mae’n dda iawn wrth ddewis a ddylai’r tîm ddefnyddio’r amddiffyn blitz ai peidio, a gallant ddibynnu arno fel taclwr ac amddiffynnwr cadarn.
Does dim amheuaeth fod ganddo sgiliau ac nid yw wedi edrych mas o le ers iddo ddychwelyd ar ôl yr anaf.
Mae rhai eisoes wedi mynegi’r farn nad yw’n haeddu ei le yn y garfan ac nad yw wedi profi ei hun eto ers iddo ddychwelyd o anafiadau.
Mae gan y beirniaid bwynt, ond rwy’n credu fod gan Gatland a’r hyfforddwyr eraill yr hawl i bigo pwy bynnag maent am ddewis.
Rhaid cofio, os nad yw’r agwedd neu awydd yno wrth iddo fynd i Wlad Pwyl caiff ei daflu mas yn ddigon buan. Dim ond hyn a hyn o histerics bydd Gatland yn fodlon derbyn, ac unwaith y bydd yr ymdrech o ofalu amdano yn effeithio gweddill y garfan yna hwyl fawr Henson fydd hi!
Yn bersonol, rwy’n credu bod angen i Henson gymryd rhan fwy blaenllaw am gyfnodau hirach o’r gêm. Yn anaml iawn y mae’n mynd i chwilio am y bêl. Cymharwch e ag ymdrechion diflino canolwr fel Brian O’Driscoll sydd fel arfer yn sicrhau ei fod yn rhan o’r gêm drwy gydol yr 80 munud. Ar y llaw arall, mae Henson yn aros i’r gêm ddod ato fe.
Dwi’n amau’n fawr a fydd Henson yn cael ei ddewis i’r tîm ar gyfer hanner cyntaf ymgyrch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Dim ond os yw pethau’n mynd o chwith, caiff ei ddewis, ond bydd yno wrth law i greu deinamig ddiddorol o fewn y garfan.
Ni fydd Henson yn cymryd rhan yn y gêm Cwpan Heineken holl bwysig dros y Gleision yn erbyn Racing Metro, gan fod Gavin Evans wedi cael ei ddewis yn lle. Mae’n rhyfedd sut mae gan wahanol hyfforddwyr farn wahanol am y un chwaraewr.
Gall y gêm hon newid holl dymor y Gleision ac mae’n hanfodol eu bod yn ennill. Roeddent yn ddigon cadarn yn Reading yn erbyn y Gwyddelod yn Llundain mewn gêm o safon isel, ond maent yn gwybod bod ennill yn erbyn Racing Metro gyda phwynt bonws yn rhoi cyfle da o sicrhau gem gartref yn rownd yr wyth ola’.
Nid yw’r Gleision wedi tanio yn ystod yr ymgyrch eto, ond maen nhw wedi bod yn gadarn yn amddiffynnol. Mae Racing wedi perfformio fel amryw dîm o Ffrainc – yn gwbl ddi-drefn – ac rwy’n credu eu bod nhw wedi rhoi’r ffidl yn y to yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Chwalwyd gobeithion y Scarlets o barhau yn y Cwpan Heineken am iddynt beidio achub ar eu cyfleoedd. Fe allan nhw fod wedi ennill penwythnos diwethaf yn erbyn Northampton a dylent fod wedi ennill y ddwy gêm yn erbyn Munster. Er gwaetha’r ffaith eu bod yn cael amser anodd yn y rheng flaen, cawson nhw ddigon o bêl i ennill pob un o’r tair gêm. Dyna’r siom.
Ymladdodd Y Dreigiau yn galed allan yn Perpignan ond nid ydynt wedi cyrraedd y safon angenrheidiol i fedru ennill yn Ffrainc eto. Yr hyn sy’n drawiadol oedd pa mor wael oedd Perpignan.
Dwi ddim yn gweld James Hook yn cael fawr ddim hwyl yn chwarae yn y tîm hwn, ac maent yn annhebygol iawn o fod yn y Cwpan Heineken y flwyddyn nesaf eto gan eu bod yn cael trafferth yn y Championnat eleni.
Dylai chwaraewyr sy’n ystyried symud i Ffrainc sicrhau eu bod yn mynd at dîm da sy’n symud i’r cyfeiriad iawn – fel arall maen nhw’n wynebu brwydr hir yn chwarae rygbi is ei safon.
Llwyddodd y Gweilch i guro Treviso ac ennill pwynt bonws gwerthfawr. Maen nhw’n dîm cryfach gyda Morgan fel maswr, a dylent ystyried dechrau gemau yn fwy aml gydag e yn y crys rhif deg.
Felly, ar ôl dechrau addawol i’r ymgyrch Heineken, gyda saith yn ennill allan o wyth ar ôl y ddwy rownd gyntaf, yr ydym yn gorffen gyda dim ond y Gleision, yn ôl pob tebyg, yn cyrraedd chwarteri’r Cwpan Heineken. Gobeithio y gallan nhw barhau yn y gystadleuaeth a bod yn destun balchder i gefnogwyr rygbi yng Nghymriw.

