Y Clwb Rygbi: Prifysgol Caerdydd v Prifysgol Abertawe
Brwydr y prifysgolion yn fyw ar S4C
Dydd Mercher 2 Mai 7.20pm
Mae’r tensiwn ar y cae rygbi rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi bod yn berwi am dros bymtheg mlynedd a bydd y ddau dîm yn herio’i gilydd eto’r wythnos hon yn Y Clwb Rygbi: CP Caerdydd v CP Abertawe.
Ar nos Fercher 2 Mai, bydd y timau’n dychwelyd i gartref tîm rygbi Cymru – Stadiwm y Mileniwm – ar gyfer yr ornest, a bydd y cyfan yn fyw ac yn egscliwsif ar S4C am yr ail flwyddyn yn olynol.
Abertawe sydd wedi cael y canlyniadau gorau yn y blynyddoedd diwethaf gyda deg buddugoliaeth allan o bymtheg yn y gemau Varsity. Nhw hefyd gipiodd y tlws yn 2011 o flaen torf o 14,000 yn Stadiwm y Mileniwm a chynulleidfa deledu o 132,000.
“Nid ar chwarae bach mae paratoi ar gyfer y frwydr yma – mae’r carfannau’n dueddol o ymarfer bob dydd am fisoedd cyn y gêm er mwyn cyrraedd y brig. Does ‘na neb isho gadael Stadiwm y Mileniwm yn waglaw. Y gêm hon yw penllanw tymor hir a chaled i’r ddau dîm ac mae yna gymaint yn y fantol,” meddai cyflwynydd Y Clwb Rygbi, Gareth Roberts.
“Mae’n dair blynedd bellach ers i Gaerdydd gipio’r fuddugoliaeth felly fyddan nhw’n gobeithio dod â’r tlws nôl i’r brifddinas. Ond mae rhediad Abertawe ar hyn o bryd yn un campus, a’i gobaith nhw yw gweld y rhediad yna yn parhau.”
Mae rhai o sêr rygbi Cymru, gan gynnwys Jamie Roberts, Alun Wyn Jones a Dwayne Peel, wedi datblygu eu talentau ar y lefel yma a chynrychioli Caerdydd ac Abertawe yn y gorffennol.
“Yn sicr, mae’n llwyfan arbennig i’r chwaraewyr ifanc gael y profiad o chwarae ym mhencadlys Rygbi Cymru, a’r gêm llynedd oedd y gyntaf imi ei gweld yn fyw. Roedd yr awyrgylch yn Stadiwm y Mileniwm yn wych gyda myfyrwyr o’r ddwy Brifysgol yn mwynhau gwylio gêm gyffrous o rygbi. Pwy a ŵyr, efallai cawn weld y Jamie Roberts nesaf ymhlith y carfannau eleni,” meddai Gareth.

