Rygbi: Cwpan Swalec: Cross Keys v Pontypridd
Dydd Llun 7 Mai 3.30
Yng nghamp y bêl hirgron, bydd dau o dimau mwyaf blaenllaw Uwch Gynghrair y Principality yn brwydro am y Cwpan Swalec o dan oleuadau llachar Stadiwm y Mileniwm ac yn fyw ar Rygbi: Cwpan Swalec: Cross Keys v Pontypridd.
Gyda’r rhaglen yn dechrau am 3.30pm, bydd modd i fwynhau uchafbwyntiau estynedig o rowndiau terfynol y Plât (Penallta v Nant Conwy) a’r Fowlen (Glyncoch v Tredegar Newydd). Yna, cawn droi at y frwydr rhwng Cross Keys a Phontypridd ar gyfer prif wobr y diwrnod – y Cwpan Swalec – gyda’r gic gyntaf am 5.00pm.
Mae’r gêm yn gweld dau o gewri rygbi Cymru yn mynd ben ben yn erbyn ei gilydd. Bellach mae Mark Ring wrth y llyw yn Cross Keys ac Dale McIntosh yn hyfforddi Pontypridd.
Llwyddodd Cross Keys i ennill eu lle yn ffeinal y Cwpan Swalec am y tro cyntaf erioed ar ôl curo Glyn Ebwy yn y rownd gynderfynol. Er bod y gêm wedi gorffen yn gyfartal, Cross Keys oedd yn dathlu oherwydd y gwahaniaeth yn y nifer o geisiau a sgoriwyd. Mae gŵyr Gwent eisoes wedi mwynhau gwefr ac awyrgylch rown derfynol eleni ar ôl cystadlu yn erbyn Munster ‘A’ yn ffeinal cystadleuaeth Cwpan Prydain ac Iwerddon.
Mae Pontypridd hefyd yn gobeithio am lwyddiant ar ddiwedd y tymor yn y cwpan a’r gynghrair. Mae’r hyfforddwr, Dale McIntosh, wedi llwyddo i sicrhau bod ei garfan yn dal ymhlith y timau sy’n cystadlu am brif wobr Uwch Gynghrair y Principality. Ychydig bwyntiau yn unig sy’n gwahanu’r chwech ar frig y gynghrair ac mae’n addo i fod yn ddiweddglo cyffrous.
Gareth Roberts a Wyn Gruffydd fydd yn Stadiwm y Mileniwm ar brynhawn Llun 7 Mai, i lywio darllediadau’r sianel o ffeinal y Cwpan Swalec rhwng Cross Keys a Phontypridd.

