S4C

Cyhoeddi gemau byw Y Clwb Rygbi ar S4C

RaboDirect Pro12 | Dydd Gwener, Awst 3, 2012

Mae S4C wedi cyhoeddi’r gemau byw a fydd ar gael i’w gwylio ar y Sianel yn ystod misoedd cyntaf tymor newydd Cynghrair RaboDirect Pro12.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno darllediadau Y Clwb Rygbi yng nghwmni nifer o sylwebwyr ac arbenigwyr profiadol. Bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys Gwyn Jones, Huw Llywelyn Davies a Brynmor Williams ymhlith eraill y tymor hwn.

Cawn weld sut hwyl gaiff Simon Easterby, Prif Hyfforddwr newydd y Scarlets, yn ei gêm gystadleuol gyntaf wrth y llyw ar nos Sadwrn 1 Medi yn fyw ar S4C.

Leinster fydd gwrthwynebwyr cyntaf y tymor i’r Scarlets yn yr ornest gyntaf i’w darlledu ar S4C o Barc y Scarlets.

Yr wythnos ganlynol, fe fydd tîm Y Clwb Rygbi draw yn Stadiwm Liberty, yng nghwmni deiliaid y gystadleuaeth, Y Gweilch, wrth iddynt groesawu Ulster – a’r cyn-chwaraewr dawnus Tommy Bowe – yn ôl i Abertawe.

Fe fydd dau o ranbarthau Cymru yn mynd ben ben a’i gilydd yn fyw ar S4C nos Sadwrn 15 Medi gyda’r Dreigiau a’r Gleision yn brwydro am bwyntiau ym Mharc Rodney, Casnewydd.

Unwaith eto eleni bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer gemau byw Cynghrair RaboDirect Pro12 i wylwyr di-Gymraeg ar wasanaeth botwm coch Sky a Freeview. Fe fydd isdeitlau Saesneg ar gael hefyd ar y gemau byw.

Dyma restr gynhwysfawr o gemau rygbi fydd ar gael i’w gwylio ar S4C rhwng nawr a diwedd y flwyddyn:

Sadwrn 1 Medi – Scarlets v Leinster
Sadwrn 8 Medi – Gweilch v Ulster
Sadwrn 15 Medi – Dreigiau v Gleision
Sadwrn 22 Medi – Gleision v Benetton Treviso
Sadwrn 29 Medi – Gweilch v Munster
Sadwrn 6 Hydref – Gleision v Glasgow
Sadwrn 2 Tachwedd – Scarlets v Zebre
Sul 3 Tachwedd – Gweilch v Leinster
Sul 2 Rhagfyr – Scarlets v Ulster