S4C

Cynghrair RaboDirect Pro12 – Tymor 2012/13

Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Iau, Awst 30, 2012

Ar drothwy tymor newydd yng Nghynghrair RaboDirect Pro12 a chyfres newydd o’r Clwb Rygbi ar S4C, mae Gwyn Jones yn asesu gobeithion rhanbarthau Cymru eleni.

Y Scarlets

Mae Simon Easterby yn ddewis da fel olynydd i Nigel Davies. Fe yw cyn gapten y rhanbarth ac mae wedi gweithio ochr yn ochr â Davies wrth i’r tîm ifanc ddatblygu. Mae wedi ennyn lot o barch o fewn y clwb ond yn bwysicach oll, mae yna ddigon o bellter rhyngddo fe a’r chwaraewyr er mwyn iddo wneud penderfyniadau anodd.

Yr her anodd sy’n ei wynebu yw cael hyd i bac o flaenwyr all wasanaethu’r olwyr rhyngwladol dawnus yn ei dîm fel Jonathan Davies, Scott Williams a Rhys Priestland. Mae wedi colli nifer o chwaraewyr profiadol a bydd gofyn iddo ffeindio blaenwyr lleol o’r un safon â’r cefnwyr disglair. Yn y pum blaen mae’r gwendid – mae’r Scarlets wedi colli Lou Reed, Damien Welch, Dominic Day ac Iestyn Thomas – a heb y rheiny, fe fydd y Scarlets yn ei chael hi’n anodd cystadlu am y teitl yn y Pro-12 neu yn erbyn timau gorau’r Cwpan Heineken.

Y Gwilch

Mae diffyg arian yn her i’r holl ranbarthau eleni ac mae’r Gweilch yn mynd trwy’r broses o ail-adeiladu gyda chwaraewyr lleol – yn yr un ffordd a wnaeth y Scarlets ddau neu dri thymor yn ôl. Mae gan y Gweilch bac cryf iawn o hyd ac wedi gallu dal gafael ar rai o’r arweinwyr allweddol fel Ryan Jones, Adam Jones ac Alun Wyn Jones ac rwy’n credu mai nhw fydd y rhanbarth sy’n debyg o gynnig yr her fwyaf i glybiau Iwerddon yn y Pro12.

Mae Steve Tandy wedi bod yn ddewis ysbrydoledig fel hyfforddwr ac wedi tynnu’r rhanbarth ynghyd, yn chwaraewyr ac yn rheolwyr, ers ei benodiad. Y diffyg profiad a chreadigrwydd ymhlith yr olwyr fydd y gofid mwyaf wrth ddechrau tymor newydd, yn enwedig ar ôl colli Shane Williams a Tommy Bowe. O fan hynny bydd yn rhaid iddyn nhw ail-adeiladu gyda dawn leol. Maen nhw mewn grŵp anodd yn y Cwpan Heineken ac efallai y bydd y gystadleuaeth honno’n her rhy anodd y tymor hwn.

Y Gleision

Mae’r Gleision wedi colli gormod o chwaraewyr dros y misoedd diwethaf i allu disgwyl gwneud llawer iawn ohoni’r tymor hwn. Mae’n anodd i unrhyw glwb ar ôl colli cewri fel Gethin Jenkins, Martyn Williams, Xavier Rush, Casey Laulala a Paul Tito ymhlith eraill.

Er bod y rhanbarth wedi dal gafael ar rai o’u chwaraewyr rhyngwladol disglair fel Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny a Jamie Roberts (sydd ddim yn debyg o chwarae ryw lawer), mae yna eraill ymhlith y garfan â llawer i brofi. Ac mae yna gapten ifanc newydd wrth y llyw yn Andries Pretorius.

Un datblygiad calonogol, er gwaetha’r diffyg arian, yw eu bod yn dychwelyd i’w cartre’ ysbrydol ym Mharc yr Arfau ar ôl tymhorau dilewyrch yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyrion y ddinas. Fe ddylai’r awyrgylch yno godi’r ysbryd a golygu eu bod yn dîm anodd i’w curo gartre’.

Y Dreigiau

Rhanbarth arall fydd yn dibynnu llawer ar eu perfformiadau gartre’ fydd y Dreigiau – maen nhw wastad yn anodd eu curo yn Rodney Parade. Maen nhw wedi arfer a byw ar arian tynn a cholli chwaraewyr da – y tro hwn mae Luke Charteris, Jason Tovey ac Aled Brew wedi gadael am borfeydd brasach.

Ond maen nhw wedi dal eu gafael ar y ddau flaen-asgellwr rhyngwladol, Dan Lydiate a Toby Faletau, a gall y Dreigiau seilio eu perfformiadau ar eu bygythiad nhw yn rhai o’r gemau mawr. Mae ganddynt hyfforddwr anhygoel o ddawnus yn Darren Edwards, sy’n gwneud y gorau o garfan ifanc a di-brofiad.

Y Gweddill

O blith y timau eraill, Leinster sy’n cynnig yr her fwyaf unwaith eto’r tymor hwn. Mae chwarae Leinster bob amser yn sialens anodd – wedi’r cwbl y nhw yw pencampwyr Ewrop a hynny’n gwbl haeddiannol. Ond os oes amser da i gwrdd â nhw, ar ddechrau’r tymor mae hynny. Maen nhw’n dal i orffwys rhai o’u chwaraewyr cryfa’ yn wythnosau cynnar y tymor ac fe all y Scarlets eu dal ar ddiwrnod gwael pan fydd y ddau dîm yn cyfarfod ar 1 Medi.

Mae Munster yn dal i ail-adeiladu ond maen nhw’n glwb digon mawr i gynnig her yn y gynghrair ac mae Ulster wedi gwella’n aruthrol dros y tymhorau diwetha’.

Fe fydd yn ddiddorol gweld sut y bydd Caeredin yn datblygu’r tymor hwn ar ôl gwneud cystal yng Nghwpan Heineken y tymor diwethaf. Byddai’n cadw golwg hefyd ar y rhanbarth newydd Zebre yn yr Eidal, o dan y cyn chwaraewr rhyngwladol Fabio Ongario. Maen nhw’n debyg o’i chael hi’n anodd yn eu tymor cyntaf ond mae Treviso wedi dangos y gall rhanbarth o’r Eidal gystadlu yn y gynghrair, yn enwedig ar eu tomen eu hun.