Tymor newydd y bêl hirgron ar S4C
Scarlets v Leinster: Sadwrn 1 Medi 6.00
Rhanbarth y Scarlets fydd yn hawlio’r sylw pan fydd Y Clwb Rygbi yn dychwelyd i S4C ar nos Sadwrn 1 Medi ar gyfer dechrau tymor newydd o’r Gynghrair RaboDirect Pro12.
Yr wythnos ganlynol (8 Medi), fe fydd tîm Y Clwb Rygbi yng nghwmni deiliaid y gystadleuaeth, Y Gweilch, wrth iddynt groesawu Ulster i Stadiwm Liberty. Yna fe fydd dau o ranbarthau Cymru yn mynd ben ben a’i gilydd yn fyw ar 15 Medi gyda’r Dreigiau a’r Gleision yn brwydro am bwyntiau ym Mharc Rodney, Casnewydd.
Y cyflwynydd Gareth Roberts, y gohebydd Dot Davies a’r sylwebwyr Huw Llywelyn Davies, Gwyn Jones a Brynmor Williams fydd yn dychwelyd i gyflwyno darllediadau S4C o’r Pro12 yn ystod y tymor sydd i ddod.
Dros yr haf mae’r Scarlets wedi gwneud newidiadau allweddol i’r garfan a’r tîm hyfforddi gyda’r cyn gapten, Simon Easterby, nawr wrth y llyw.
“Mae Simon Easterby yn ddewis da fel olynydd i Nigel Davies,” yn ôl Gwyn Jones. “Fe yw cyn gapten y rhanbarth ac mae wedi gweithio ochr yn ochr â Davies wrth i’r tîm ifanc ddatblygu. Mae wedi ennyn lot o barch o fewn y clwb ac mae ddigon o bellter rhyngddo fe a’r chwaraewyr er mwyn iddo wneud penderfyniadau anodd.
“Yr her anodd iddo yw cael hyd i bac o flaenwyr all wasanaethu’r olwyr rhyngwladol yn ei dîm fel Jonathan Davies, Scott Williams a Rhys Priestland. Mae wedi colli nifer o chwaraewyr profiadol a bydd gofyn iddo gael hyd i flaenwyr lleol o’r un safon â’r cefnwyr disglair.”
O blith y timau yn y gynghrair, mae Gwyn o’r farn mai talaith Leinster sydd yn cynnig yr her fwyaf unwaith eto’r tymor hwn.
“Mae chwarae Leinster yn sialens anodd bob amser – y nhw wedi’r cwbl yw pencampwyr Ewrop a hynny’n gwbl haeddiannol. Ond, os oes amser da i gwrdd â nhw, ar ddechrau’r tymor mae hynny. Maen nhw’n dal i orffwys rhai o’u chwaraewyr cryfa’ pryd hynny ac fe all y Scarlets eu dal ar ddiwrnod gwael.”
Unwaith eto eleni bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer gemau byw Cynghrair RaboDirect Pro12 i wylwyr di-Gymraeg ar wasanaeth botwm coch Sky a Freeview. Fe fydd isdeitlau Saesneg ar gael hefyd ar y gemau byw.

