S4C

Amser gêm ddarbi Nos Galan

RaboDirect Pro12 | Dydd Mercher, Medi 19, 2012

Bydd gêm fawr Nos Galan rhwng y Dreigiau a’r Gweilch ar Rodney Parade yn cael ei darlledu’n fyw ac yn ecsgliwisif o 4.00pm ar Y Clwb Rygbi ar S4C.

Yn dilyn trafodaethau rhwng y ddau ranbarth Cymreig, cynghrair y RaboDirect Pro12 a’r sianel deledu, cafwyd cadarnhad mai am 4.15pm fydd y gêm yn dechrau ar 31 Rhagfyr.

Bydd dechrau darlledu am 4.00pm a chael y gic gyntaf am 4.15pm yn galluogi i’r cefnogwyr gyrraedd adre yn ddigon cynnar i fwynhau dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Bydd S4C yn gallu darlledu rhaglenni plant fel arfer tan 4.00pm, a bydd dechrau’r gêm yn gynt yn galluogi’r rhan fwyaf o wylwyr i fwynhau’r gem.

Fe fydd y gêm yn rhan o becyn cyffrous o gemau darbi ar S4C yn ystod cyfnod y Nadolig.