Dreigiau v Gleision, edrych ymlaen
Mae’r gemau darbi rhwng rhanbarthau Cymru ymhlith rhai o gemau mwya’r tymor yn y RaboDirect Pro12.
A bydd cryn edrych ymlaen at y gêm ddarbi rhwng y Dreigiau a’r Gleision o barc Rodney Parade.
Mae’r ddau ranbarth wedi cael dechrau cymysg i’r tymor gan ennill un a cholli un.
Fe gollodd y Gleision o drwch blewyn i Gaeredin gartre a chafodd y Dreigiau grasfa allan yn Leinster, ond fe fydd hynny’n cyfri fawr ddim yn y darbi.
Bydd y Dreigiau’n gobeithio y bydd y gefnogaeth gartre’ yn eu hysbrydoli yn erbyn eu gelynion agosa’.
Mae’r Dreigiau wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y rhanbarthau Cymreig eraill yn Rodney Parade, tra bod y Gleision ond wedi ennill un o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn rhanbarthau Cymreig.
Yn y pedair gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm, y tîm cartref sydd wedi ennill, a dyw’r Gleision heb ennill ar Rodney Parade ers 23 Ebrill 2010.
Mae disgwyl i’r canolwr rhyngwladol Jamie Roberts ddychwelyd i’r garfan ar ôl chwe mis o seibiant oherwydd anaf i’w ben-glin.

