S4C

Edrych Ymlaen – gyda Gwyn Jones: Gwener – 21 Medi

Edrych ymlaen | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Gwener, Medi 21, 2012

Edrych Ymlaen – gyda Gwyn Jones: Gwener – 21 Medi

Weithiau mae rhai digwyddiadau trist am bobl sy’n gysylltiedig â’r gêm yn haeddu mwy o sylw yn y lle cyntaf na’r chwarae ar y cae rygbi.

Mae colli canolwr Ulster Nevin Spence mewn damwain drasig wedi bwrw cysgod trwm dros y cynghrair cyfan. Dim ond 12 clwb sydd yn y RaboDirect Pro12 ac mae’r chwaraewyr fel teulu clos yn nabod ei gilydd yn dda.

Rydyn ni, yn nhîm Y Clwb Rygbi, yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deutu a’i ffrindiau.

Yn naturiol, mae gêm Ulster allan yn Zebra wedi ei gohirio, ac felly pum gem fydd yn y cynghrair y penwythnos yma.

Rwy’n credu mai’r timau cartre’ fydd yn ennill ym mhob gêm, gan ddechrau heno ar Barc y Scarlets pan fydd y Gweilch yn cael croeso cynnes yn Nhrostre yng ngêm ddarbi fawr y gorllewin.

Mae’n anodd gweld sut y gall y Gweilch ennill yno ar sail y ffordd maen nhw’n chwarae ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod y canolwr creadigol Ashley Beck allan gydag anaf.

Dwi ddim yn rhagweld crasfa chwaith. Mae gemau darbi’n dynn iawn fel arfer, ac felly, dwi’n credu y gwnaiff y Scarlets ennill o bum pwynt.

Dwi’n meddwl y gwnaiff y Gweilch wella yn ystod y tymor ond mae’r gêm hon yn rhy gynnar iddyn nhw.

Mae gan y Gweilch amddiffyn da a phac cryf, ond mae yna dueddiad ers tymhorau o golli siâp yn rhy rwydd. Bydd Steve Tandy yn falch o weld Ryan Jones yn ôl ar y fainc ar ôl anaf, ond does ganddyn nhw ddim digon o chwaraewyr dylanwadol tu ôl i’r sgrym i guro’r Scarlets gartre.

Yn y gorffennol, maen nhw wedi gallu dibynnu ar Shane Williams, Tommy Bowe a James Hook i helpu troi gemau, ond mae’r meistri yma wedi mynd wrth i’r clwb ailadeiladu.

Bydd camerâu Y Clwb Rygbi yn fyw o Barc yr Arfau am y tro cyntaf y tymor hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld y Gleision yn ôl yn eu cartre’ naturiol wrth herio XXXX. Byddan nhw ar ben eu digon ar ôl curo’r Dreigiau yn Rodney Parade.

Dyw’r Gleision ddim ar eu gorau ar hyn o bryd, gan eu bod yn dal i ddatblygu o dan yr hyfforddwr newydd Phil Davies, ond maen nhw’n croesawu Jamie Roberts yn ôl yn y canol a bydd e’n allweddol fel arweinydd tu ôl i’r pac y tymor hwn.

Fe fydd hon yn gêm dynn arall, rwy’n meddwl. Mae Treviso wedi cymryd camau mawr yn ystod y tymhorau diwethaf ac mae ganddyn nhw bac cryf a’r gallu i gadw’r bel.

Serch hynny, dwi’n gweld y Gleision yn ennill o 10 i 15 pwynt ond efallai’n colli mas ar bwynt bonws.

Yn y gemau eraill, dwi’n meddwl y gwnaiff Leinster a Glasgow ennill, a dwi’n ofni y bydd Munster yn rhy gryf i’r Dreigiau.

Dyw Munster ddim y tîm yr oedden nhw rai tymhorau yn ôl, ond gartre, dwi’n gweld nhw’n mynd â hi yn reit gyfforddus. Does dim digon o sbarc tu ôl i’r sgrym gan y Dreigiau ar hyn o bryd, gyda chwaraewyr allweddol wedi anafu a’r asgellwr Aled Brew wedi gadael am Ffrainc ers diwedd y tymor diwetha’.