S4C

Edrych Ymlaen – gyda Gwyn Jones: Gwener – 28 Medi

Edrych ymlaen | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Gwener, Medi 28, 2012

Fe fydd hi’n noson emosiynol ym Mharc yr Arfau, Caerdydd wrth i Ulster chwarae eu gêm gyntaf ers marwolaeth drist y canolwr Nevin Spence.

Mae’n anodd rhagweld sut y bydd ei gyd chwaraewyr yn ymateb – ond fe fydd hi’n gêm yn llawn angerdd.

Mae Ulster wedi cael dechrau da i’r tymor ar y cae ac fe fydd y gêm yn fesur o allu a chryfder pac y Gleision.

Fe wnaethon nhw basio’r prawf yn erbyn Treviso ond mae Ulster gam yn uwch.

Maen nhw’n gallu bod yn eitha’ negyddol oddi cartre, gan chwarae’n dynn a pheidio â chwarae’n agored. Mae’n fformiwla sydd wedi arwian at lwyddiant dros y tymhorau diwethaf.

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld Jason Tovey yn dechrau ei gêm gyntaf dros y Gleision ar ôl symud atyn nhw o’r Dreigiau dros yr haf. Mae pwysau mawr arno am fod y chwaraewr ifanc Rhys Patchell wedi perfformio cystal.

Mewn gêm sy’n debygol o fod yn dynn, bydd ei grebwyll tactegol a’i gicio o’r dwylo yn cael sylw manwl.

Y cwestiwn mawr arall yw a fydd y pac, yn enwedig y rheng flaen yn ddigon cryf i wrthsefyll pac Ulster.

Fe wnaethon nhw basio’r prawf yn erbyn Treviso, ond fe fydd hyn yn anoddach. Dwi’n meddwl y bydd Ulster yn drech na nhw mewn gêm dynn.

Mae’r Dreigiau wedi cael eu beirniadu cryn dipyn yn y cyfryngau am eu perfformiadau diweddar. Mae’r wythwr rhyngwladol Toby Faletau yn enwedig wedi siomi nifer ac mae awgrym na fydd yn cael ei ddewis yn erbyn Caeredin.

Mae’n anodd dychmygu bod yr hyfforddwyr yn ystyried peidio dewis yr wythwr, gan ei fod yn hollol allweddol i lwyddiant y tîm hwn, heb sôn am i Gymru.

Mae’n bwysig bod y Dreigiau yn ennill gemau fel hyn gartre yn Rodney Parade, ond fe fydd Caeredin yn brawf ar eu gallu a’u penderfyniad. Mae angen iddyn nhw gynnig mwy o opsiynau tu ôl i’r sgrym ond fe ddylai’r fantais o fod gartre fod yn ddigon iddyn nhw ennill mewn gêm agos.

Mae Leinster yn edrych yn gyfforddus ar ôl colli gêm gynta’r tymor ac fe ddylen nhw ennill heno eto yn erbyn Connacht gyda rhai o’u prif chwaraewyr yn dychwelyd yn barod ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn Munster ac ymgyrch Cwpan Heineken.

Fe ddylan nhw a’r Glasgow Warriors, sy’n chwarae Zebre, ennill pwyntiau bonws.

Mae’r Gweilch wedi troi’r gornel ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn y Scarlets, ond maen nhw’n bell o fod ar eu gorau o ran safon eu perfformiadau.

Mae’r garfan yn edrych yn gryfach nawr, a bydd angen iddynt fod ar eu gorau i guro Munster yn ein gem fyw ni ar S4C.

Fe gafodd Munster grasfa yn y Liberty y tymor diwetha’. Dwi ddim yn meddwl mai fel ‘na fydd hi y tro hwn, ond fe ddylai’r Gweilch ennill.

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut y bydd y Scarlets yn ymateb ar ôl colli yn erbyn y Gweilch ar Barc y Scarlets wythnos diwetha’.

Mae ganddyn nhw broblemau yn y pac – a dyna yw union gryfder Treviso. Fe fydd hon yn gêm letchwith, ond dwi’n meddwl y cawn nhw ddigon o feddiant i fwydo’r olwyr ac ennill. Mae’n bwysig eu bod yn ennill er mwyn dangos y gallan nhw barhau â’r safon y maen nhw wedi ei gosod ddechrau’r tymor.