S4C

Edrych yn ôl. Gyda Gwyn Jones

Edrych yn ôl | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Llun, Medi 24, 2012

Roeddwn i wedi rhagweld y byddai’r Scarlets yn curo’r Gweilch yn y ddarbi fawr ar Bare y Scarlets nos Wener, ond fel arall yr aeth hi, a doedd e ddim yn syndod llwyr.

Roedd rhai wedi rhagweld buddugoliaeth swmpus i’r Scarlets ond roeddwn i wedi amau y byddai hon yn gêm dynn, gan fod y rhan fwyaf o gemau darbi yn dynn.

Roedd natur dynn y gêm yn ffafrio’r Gweilch, gan fod ganddyn nhw bac cryf, ac ni chafodd y Scarlets y cyfle i gyflymu tempo’r gêm a chwarae yn eu steil agored arferol.

Fe aeth ambell benderfyniad tyngedfennol yn eu herbyn hefyd, yn enwedig yn achos y dacl uchel ar Andy Fenby pan oedd eisoes wedi croesi llinell gais y Gweilch.

Mae’r blaen asgellwr George Stowers a wnaeth y dacl nawr wedi cael ei enwi ac fe allai wynebu achos disgyblu.

Mae’r cyfan yn codi cwestiynau ynghylch pam na allai’r dyfarnwr fideo Derek Bevan fod wedi dyfarnu cais cosb i’r Scarlets.

Ond y sefyllfa yw os nad yw’r dyfarnwr ar y cae yn gofyn i’r dyfarnwr fideo a oedd yn gais cosb neu beidio, does gan y dyfarnwr fideo ddim hawl i wneud unrhyw ddyfarniad ar y mater. Efallai bod angen ail edrych ar y rheolau yn hyn o beth.

Mae’n dda gweld y Gweilch yn ennill eto a’r pac yn dechrau gweithio’n fwy effeithiol. Fe fydd hyn yn help iddyn nhw wrth iddyn nhw wynebu her ymgyrch Cwpan Heineken ymhen llai na phythefnos.

Fe gafodd y Gleision fuddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Treviso, ond fe ddylsan nhw fod wedi mwynhau buddugoliaeth fwy cyfforddus fyth.

Treviso gafodd y gorau o’r ail hanner a dweud y gwir, ond roedd yna ddigon i blesio’r cefnogwyr gyda’r maswr Rhys Patchell yn disgleirio eto a Jamie Roberts yn cael cais yn ei gêm gyntaf ers dros chwe mis.

Roedd Jamie yn gymharol dawel ac mae hynny i’w ddisgwyl efallai, ond un a dynnodd sylw am ei berfformiad oedd seren y gêm, y blaen-asgellwr Josh Nadini, ac mae’n ymddangos mai Patchell fydd y dewis cyntaf yn safle’r maswr nawr.

Fe gollodd y Dreigiau yn drwm ym Munster ac roedd hynny i’w ddisgwyl efallai. Ni wnaethon nhw ddewis eu tîm cryfa’ yn Iwerddon ac mae’n ymddangos eu bod am dargedu gemau penodol i’w hennill.

Efallai mai nhw sydd ddoetha’ – achos bod ganddyn nhw lai o adnoddau na’r rhanbarthau Cymreig eraill. Ond mae angen bod yn ofalus rhag ildio gemau’n rhy hawdd, dyw hynny ddim yn dda i ysbryd unrhyw garfan.