Rygbi’r Colegau
Gemau byw o gynghrair y colegau ar wefan S4C
Prynhawn Mercher 3 Hydref, 2.25 yn fyw ar y we
Hefyd, Nos Fercher 3 Hydref, 10.35
Bydd S4C yn darlledu 16 o gemau rygbi o Bencampwriaeth Cynghrair Colegau Cymru yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y we yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig y tymor hwn, gydag ail ddarllediadau o’r gemau cyfan hefyd yn cael eu dangos ar y sianel deledu.
Bydd rhai o ddoniau disgleiria’ rygbi dan 18 oed yng Nghymru yn cystadlu am y Bencampwriaeth a chawn ddilyn y gystadleuaeth drwy gydol y tymor a gweld a fydd Coleg Gwent yn gallu dal gafael ar eu teitl.
Mae wyth tîm yn cystadlu eleni gan fod Coleg Llanymddyfri bellach wedi ymuno – coleg sydd â thraddodiad mawr o gynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol o’r safon uchaf.
Y timau eraill yn y gystadleuaeth fydd Coleg Sir Gâr, a gollodd o drwch blewyn yn rownd derfynol y Bencampwriaeth y llynedd, Coleg Morgannwg, Coleg Castell-nedd/Port Talbot, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Abertawe a Choleg Sir Benfro.
Bydd y rhaglenni Rygbi’r Colegau yn dechrau prynhawn Mercher, 3 Hydref, pan fydd gêm Coleg Morgannwg v Coleg Gwent yn fyw ar s4c.co.uk ac yn cael ei darlledu eto ar S4C y noson honno. Yna, ar ddydd Mercher, 10 Hydref, cawn weld Coleg Llanymddyfri v Coleg Castell Nedd/Port Talbot yn fyw ar y wefan yn y prynhawn ac ar y teledu gyda’r nos.
Wyn Gruffydd fydd y prif sylwebydd a bydd Gwyn Jones ymhlith y sylwebyddion ar gyfer y gemau sy’n cael eu cynhyrchu gan gwmni Sports Media Services.
Bydd chwaraewyr rhyngwladol fel George North a Scott Williams – a ddatblygodd fel chwaraewyr trwy’r colegau addysg bellach – ymhlith y cyfranwyr i’r rhaglen yn ystod y tymor.
Fe ddechreuodd S4C ddarlledu Rygbi’r Colegau ddiwedd y tymor diwethaf ac fe gafodd groeso brwd gan ddilynwyr y gêm.
Meddai Geraint Rowlands, Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag Undeb Rygbi Cymru i roi llwyfan teilwng i rygbi ar y lefel yma. Mae’r ymateb a gawsom ni i ddarlledu gemau Rygbi’r Colegau yn y gwanwyn wedi bod yn wych. Mae’r gemau’n cyrraedd cynulleidfa ifanc a newydd trwy’r darllediadau ar y we a bydd y gwasanaeth ar y we a’r Sianel ei hun wrth fodd dilynwyr rygbi traddodiadol yn y Deyrnas Unedig.”
Meddai’r cynhyrchydd Russell Isaac ar ran cwmni Sports Media Services, “Yn Seland Newydd a De Affrica mae’r gystadleuaeth ar y lefel colegau 16+ yn cael ei hystyried yn allweddol i ddatblygiad chwaraewyr ifanc ac mae’n prysur ddatblygu’r un mor bwysig yng Nghymru. Bydd rhai o’r chwaraewyr yma’n debyg o fod yng ngharfan Cymru ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Ieuenctid y Byd yr IRB, yng ngharfannau rhanbarthau Cymru ac efallai’r garfan genedlaethol rywbryd. Yr hyn y gallwn fod yn sicr ohoni yw y bydd digon o gyffro, dawn ac awyrgylch i’w mwynhau yn y gemau yma.”

