S4C

Y Gweilch v Ulster, edrych ymlaen

Edrych ymlaen | RaboDirect Pro12 | Dydd Mercher, Medi 5, 2012

Ar ôl ennill y cynghrair RaboDirect PRO12 yn y ffordd fwya’ dramatig yn erbyn Leinster ym mis Mehefin, fe gafodd y Gweilch eu hatgoffa Sadwrn diwetha’ o’r dasg sy’n eu hwynebu wrth geisio cadw gafael ar y bencampwriaeth.

Roedd y profiad yn Benetton Treviso yn un go arw – colli’r clo Ian Evans yn yr hanner cyntaf o achos y cerdyn coch a gorfod brwydro gyda 14 dyn yn unig yn y glaw trwm yn yr Eidal.

Wrth golli yno, roedden nhw’n amlwg yn gweld eisiau chwaraewyr creadigol allweddol fel y Gwyddel Tommy Bowe, sydd bellach wedi mynd i Ulster.

Y rhanbarth yma o Iwerddon yw gwrthwynebwyr y Gweilch yn eu hail gêm o’r tymor – a bydd yr hyfforddwr Steve Tandy yn disgwyl gwell berfformiad gan y tîm.

Y nhw oedd yr unig dîm o Iwerddon i guro’r Gweilch y tymor diwethaf a hynny o 15-14 yn Ravenhill ym mis Chwefror. Mae Ulster wedi cryfhau ers hynny ac fe fydd hi’n anodd i’r Gweilch yn y Liberty. Y Gweilch yw’r ffefrynnau ar eu tomen eu hunain – ond fe ddylai fod yn agos.