S4C

Edrych ymlaen, gyda Gwyn Jones

Edrych ymlaen | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Gwener, Hydref 26, 2012

Roedd penwythos diwethaf yn un go arw i ranbarthau Cymru, felly fe fyddwn yn gobeithio am ymateb cadarnhaol y penwythnos yma.

Yn anffodus. mae tri o’r rhanbarthau yn wynebu gemau anodd iawn.

Mae gan y Scarlets obaith o ddod adre o Geredin gydag un pwynt bonws o leia’.

Fe gawson nhw bythefnos siomedig iawn yn y Cwpan Heineken, ond o leia’ dyw Caeredin ddim â’r pac anferth yr oedden nhw’n eu hwynebu yn erbyn Clermont a Leinster yn ddiweddar.

Diddorol yw gweld mai Aled Thomas fydd yn dechrau heno yn safle’r maswr. Mae hyn yn arwydd bellach nad yw Rhys Priestland yn chwarae’n dda ac mae mewn peryg o golli ei le i Dan Biggar neu James Hook yn nhîm Cymru.

Mae Priestland ar y fainc ar gyfer gêm sy’n debyg o fod yn agos.

Mae gen i deimlad mai’r Albanwyr aiff â hi ac rwy’n ofni mai colli fydd hanes y Dreigiau ar Rodney Parade hefyd.

Dyw Ulster heb golli eto y tymor hwn ac, er eu bod yn arbrofi trwy chwarae Bowe fel cefnwr a Wallace yn y canol, maen nhw’n debyg o fod yn rhy gryf i’r tîm cartre’.

Dyw chwarae bant o gartre yn poeni dim ar Ulster, gan eu bod eisoes wedi ennill yn erbyn y Gweilch a’r Gleision.

Mae’r Gleision yn debyg o gael noson anodd iawn yn Nulyn. Mae Leinster wedi dewis eu tîm cryfa’ posib ac, er gwaetha’r ffaith bod yr hyfforddwr Phil Davies yn gweld arwyddion o obaith yn y perfformiad yn erbyn Toulon y penwythnos diwethaf, maen nhw’n debyg o golli’n drwm.

Mae’r Gleision wedi colli pedair gêm yn olynol – ac mae’n ymddangos fel eu bod yn wynebu tymor hir a siomedig.

Mae yna sôn cynyddol bod nifer o’u chwaraewyr gorau yn gadael ddiwedd y tymor.

Un siom fawr arall oedd gweld na chafodd Josh Navidi ei ddewis ar gyfer carfan Cymru. Mae’n flaen asgellwr sy’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol ac fe ddylai fod wedi cael ei gyfle, yn fy marn i.

Yn olaf, fe ddylai’r Gweilch ennill gartre yn erbyn Connacht a sicrhau pwynt bonws. Os chwaraewn nhw gystal ag y gwnaethon nhw yn erbyn Caerlyr am y 70 munud cyntaf, fe ddylan nhw gyflawni’r gamp, er bod Connacht yn gallu bod yn wrthwynebwyr lletchwith.