S4C

Edrych ymlaen, gyda Gwyn Jones: Gwener 5 Hydref

Edrych ymlaen | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Gwener, Hydref 5, 2012

Mae’r Gleision wedi cael dechreuad cymysg i’r tymor ac mae gêm anodd yn eu disgwyl yng ngêm fyw S4C ar Y Clwb Rygbi nos Sadwrn.

Maen nhw wedi colli dwy gêm gartref ym Mharc yr Arfau eisoes y tymor hwn ac mae Glasgow Warriors yn wrthwynebwyr lletchwith.

Dyw Glasgow ddim cystal tîm â’r tymor diwethaf, ond maen nhw eisoes wedi curo’r Gweilch ar y Liberty.

Dwi’n ofni y bydd gwendid y Gleision yn y pac, y diffyg meistrolaeth ymhlith yr haneri a’r diffyg patrwm yn eu chwarae yn golygu y byddant yn colli eto, yn enwedig os yw’r tywydd yn wlyb.

Ar ôl colli ddwywaith yn olynol, mae angen i’r Scarlets ennill heno cyn dechrau ar eu hymgyrch Heineken. Os yw’r Scarlets yn colli eto, fe fydd yr holl waith da a wnaed ddechrau’r tymor i’w weld yn wastraff.

Mae’r Dreigiau newydd ennill gartre’ yn erbyn Caeredin a dangos eu bod yn gallu dewis eu tactegau’n ofalus wrth wneud hynny. Fe fyddan nhw’n anelu at chwarae gêm gyfyng, dynn i atal cefnwyr y Scarlets rhag cael unrhyw gyflymdra yn eu gêm.

Ond rwy’n credu y gwnaiff y Scarlets ennill ac mae angen i’r maswr Rhys Priestland gael gêm dda cyn yr ymgyrch Cwpan Heineken a’r gemau rhyngwladol. Dyw e ddim wedi bod ar ei orau hyd yma.

Gan fod y Gweilch bellach wedi setlo ar eu pac cryfa’ ar haneri’n gweithio’n dda, rwy’n disgwyl iddyn nhw ennill yn rhwydd mas yn Zebre.

Fe fydd yn braf gweld Adam Jones yn ei ôl yn safle’r prop tynn. Mae angen iddo gael amser ar y cae cyn y tymor rhyngwladol, er dwi’n amheus a wnaiff e chwarae’r 80 munud yn gyfan.

Gêm fawr y penwythnos yw Leinster v Munster – ond yn wahanol i rai gemau blaenorol, dwi’n disgwyl i Leinster ennill yn rhwydd. Dwi wedi siomi yn Munster hyd yn hyn a bydd gallu a grym Leinster yn ormod iddyn nhw wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.

Dau bwynt arall am y Gweilch. Roedd clywed bod Mike Cuddy yn eu gadael fel rheolwr gyfarwyddwr yn arwydd o’r oes. Mae’r rhanbarthau i gyd yn gorfod ailstrwythuro o achos y cyni ariannol. Mae’r rhanbarth yn mynd i’r cyfeiriad iawn trwy fuddsoddi yn y chwaraewyr ifanc, lleol yn lle prynu talent o Hemisffer y De.

Roedd Jonathan Humphreys yn iawn i bwyntio mas bod cynnal pedwaredd gêm ryngwladol yn yr hydref ar ddiwedd Tachwedd yn amharu ar baratoadau’r rhanbarth ar gyfer y gemau Heineken ym mis Rhagfyr. Ond y gwir amdani mai gemau fel yr un yma yn erbyn Awstralia sy’n creu incwm i’r Undeb ar gyfer ariannu’r rhanbarthau. Rwy’n ofni nad oes dewis.