Edrych yn ôl. Gyda Gwyn Jones
Roeddwn i’n siomedig iawn ym mherfformiad y Gleision nos Wener.
Roedd pawb yn disgwyl y byddai Ulster wedi cael eu hysbrydoli yn dilyn marwolaeth drist y canolwr Nevin Spence ond doedden ni ddim yn meddwl y byddai’r Gleision yn ildio mor rhwydd a chael shwd goten.
Maen nhw wedi colli gartref ddwy waith nawr, a gyda chymaint o wendid yn y rheng flaen, mae’n anodd gweld pa lwyfan y cawn nhw i herio’r timau gorau.
Mae timau mawr Ffrainc yn eu disgwyl yng Nghwpan Heineken ac mae’r hyfforddwr Phil Davies yn wynebu pen tost.
Roedd colli Rhys Patchell a Jason Tovey yn gryn ergyd iddyn nhw hefyd. Ceri Sweeney yw’r unig faswr cydnabyddedig sydd ganddyn nhw nawr ac mae creadigrwydd yn brin tu ôl i’r sgrym.
Fe wnaeth y Dreigiau ddangos eu bod yn gallu amrywio eu tactegau wrth guro Caeredin. Fe sgorion nhw naw pwynt trwy giciau adlam ac mae’n dangos eu bod yn barod i addasu a chwarae i’w cryfderau gan fod llai o olwyr creadigol ganddynt na’r tymor diwetha’.
Y newyddion trist oedd colli’r blaen asgellwr Dan Lydiate am gyfnod o oddeutu tri mis. Mae’n un o’u chwaraewr prin sydd o’r safon ryngwladol uchaf a bydd y golled yn aruthrol iddyn nhw, yn ogystal ag i Gymru ar gyfer gemau’r hydref.
Fe fydd disgwyl nawr i Toby Faletau godi ei gêm, cymryd mantell Lydiate ac ysbrydoli’r tîm.
Roedd y Gweilch yn wych ddydd Sadwrn wrth guro Munster yn rhacs. Doeddwn i ddim yn disgwyl i’r Gwyddelod blygu mor rhwydd o dan y pwysau, ond dyw hynny’n tynnu dim o berfformiad y tîm cartref ar y Liberty.
Ar ôl eu dechreuad sigledig i’r tymor, maen nhw’n edrych yn dîm cyflawn, eithriadol o gryf – a hynny o gofio eu bod wedi colli cymaint o chwaraewyr dros yr haf.
Mae canmol mawr am berfformiadau Justin Tipuric yn y rheng ôl, gyda rhai’n galw ar ddewiswyr Cymru i’w ddewis yn lle capten Cymru, Sam Warburton, fel blaenasgellwr agored.
Ydy, mae’n chwarae’n dda, ond dyw cymharu perfformiadau’r ddau chwaraewr ar hyn o bryd ddim yn gymhariaeth hollol deg. Mae Tipuric yn chwarae mewn pac sydd yn mynd yn eu blaen, tra bo’r Gleision ar y troed ôl a Warburton yn gorfod taclo ac amddiffyn byth a hefyd.
Ond os yw Dan Biggar yn parhau i berfformio fel y mae, fe fydd yn anodd i’r dewiswyr ei anwybyddu. Dwi e ddim yn ffefryn ymhlith dewiswyr Cymru, ond efallai y bydd e’n eu gorfodi nhw i’w ddewis.
Roeddwn wedi siomi ym mherfformiad y Scarlets yn erbyn Treviso. Roedden nhw’n ddigon da i fod ar y blaen, ond roedd camgymeriadau diangen wedi agor y drws i
Treviso. Fe ddaeth dau o geisiau’r Eidalwyr o giciau oedd wedi’u taro i lawr. Anfaddeuol.
Ar nodyn mwy positif, mae’r bachwr Matthew Rees yn creu argraff eto. Newydd da i Gymru.
Roedd yn syndod bod Conancht wedi rhoi cymaint o grasfa i Leinster. Oedd, roedden nhw wedi gorffwys nifer o chwaraewyr cyn y gêm fawr yn erbyn Munster y penwythnos nesa, ond roeddwn yn disgwyl gwell.
Zebre, y rhanbarth newydd o’r Eidal, sy’n haeddu’r gair olaf.
Fe lwyddon nhw i gael eu pwynt cyntaf yn y cynghrair mewn gêm agos oddi cartref yn erbyn Glasgow. Y gobaith yw y bydd y pwynt bonws yma yn eu hysbrydoli ar gyfer y dyfodol.

